Cymdeithas Cwrlo Cymru
Sefydlwyd Cymdeithas Cwrlo Cymru (Saesneg: Welsh Curling Association) yn 1974 (noder y sillefir "cwrlo" fel "cwrlio" yn eu teitl). Dyma'r corff llywodraethu cenedlaethol ar gyfer y gamp yng Nghymru. Ar wahân i westeion, mae pob cwrlwr sy'n chwarae yng Nghymru yn aelod o'r WCA, ac yn talu ardoll flynyddol tuag at ei chynnal. Mae’r WCA yn gyfrifol am ddewis timau – drwy dwrnament cenedlaethol neu ddulliau eraill – i gynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol.[1]
Gwlad | Cymru |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1974 |
Aelod o'r canlynol | World Curling |
Pencadlys | Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy |
Gwladwriaeth | Cymru |
Hanes
golyguSefydlwyd CCC yng nghanolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy. Mae'r ffaith bod holl aelodau pwyllgor Cymdeithas Cwrlio Cymru wedi bod yn chwaraewyr Glannau Dyfrdwy, ac felly'n rhan o Dalaith Gyntaf Cymru ('First Province of Wales'), yn gyfan gwbl oherwydd nad oes unrhyw leoliadau parhaol eraill ar gyfer cyrlio yng Nghymru. Os sefydlir cyrlio ar ail rinc yng Nghymru, y CCC fydd y corff llywodraethu, a hefyd yn goruchwylio cwrlo yno.[1]
Cystadlu
golyguMae Cymru’n rhoi timau i mewn i nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol gan gynnwys cystadlaethau Dynion Ewropeaidd, Byd Cymysg, Dwbl Cymysg y Byd a Chystadlaethau Hŷn y Byd, sy’n cael eu rhedeg yn flynyddol gan Ffederasiwn Cyrlio’r Byd.[1]
Mae Cymru wedi cystadlu yn erbyn gwledydd megis; Sbaen, Slofenia, Lloegr, Twrci, Awstria, Slofacia, a Slofenia yn y gamp. Bu iddynt guro Lloegr a Slofenia.[2] Mae tîm y dynion hefyd wedi cystadlu mewn cystadlaethau megis Pencampwriaeth Cwrlo Hŷn y Byd yn Sweden yn 2024.[3]
Mae Cymru yn aelodau o 'World Curling', corff llywodraethol y gamp. Yn 2024 roedd Cymru wedi eu lleoli yn rhif 27 fel ranc ryngwladol allan o'r 97 aelod.[4] yn rancio yn rhif 38 ar gyfer tîm menywod,[5] a rhif 43 allan o 51 yn y dosbarth cwrlio cymysg.[6]
Cystadleuaeth ddomestig
golyguDechreuodd cystadleuaeth Bonspiel Cymru (Welsh Bonspiel) yn 1978 yng nghartref Cwrlo Cymreig, Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy. Oherwydd prinder canolfannau sglefrio yng Nghymru ac felly unman i gynnal y digwyddiad, mae wedi cael llawer o gartrefi dros dro yn yr Alban gan gynnwys Forest Hills, Letham Grange a Greenacres Curling Club.[7]
Dolenni allannol
golygu- Gwefan swyddogol Cymdeithas Cwrlo Cymru
- @WelshCurling tudalen ar Facebook
- @FPOWCurling cyfrif X
- Welsh Curling sianel Youtube y Gymdeithas
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "About us". Gwefan Cymdeithas Cwrlo Cymru. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Blog". Gwefan CCC. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "World Senior Curling Championships". Gwefan CCC. 13 Mai 2024.
- ↑ "Men's Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Women's World Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Mixed Doubles World Rankings". World Curling. Cyrchwyd 16 Awst 2024.
- ↑ "Welsh Bonspiel". Gwefan CCC. Cyrchwyd 15 Awst 2024.