Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Mudiad sydd â'r nod o hybu ymwybyddiaeth, astudiaeth a dealltwriaeth o enwau lleoedd a’u perthynas ag ieithoedd, amgylchedd, hanes a diwylliant Cymru yw Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.

Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
Sefydlwyd 1 Hydref 2011
Gwefan www.cymdeithasenwaulleoedd.cymru
Cadeirydd Yr Athro David Thorne

Hanes y Gymdeithas golygu

Ar 20 Tachwedd 2010 trefnodd Prosiect Llên Natur Cymdeithas Edward Llwyd[1] gynhadledd ar bwnc enwau lleoedd ym Mhlas Tan y bwlch. Yn y cyfarfod hwnnw fe gytunwyd mewn egwyddor i sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru.[1] Daeth y Gymdeithas i fodolaeth ffurfiol mewn cynhadledd a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2011 yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru drwy gydweithrediad Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru.[2]

Gweithgaredd golygu

Mae'r Gymdeithas yn cynnal cynhadledd flynyddol ac yn cyhoeddi bwletin ddwywaith y flwyddyn. Mae hefyd yn cynnal amrywiaeth o brosiectau a digwyddiadau mewn gwahanol rannau o Gymru.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu