Cymdeithas Genhadol Llundain
Roedd Cymdeithas Genhadol Llundain yn gymdeithas genhadol a sefydlwyd yn 1795 gan Eglwyswyr Anglicanaidd ac Anghydffurfwyr o wahanol enwadau. Mae bellach yn rhan o Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (Council for World Mission neu 'CWM').
Enghraifft o'r canlynol | Christian missionary society |
---|---|
Daeth i ben | 1966 |
Dechrau/Sefydlu | 1795 |
Olynydd | Council for World Mission |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
golyguYn 1793, ysgrifennodd Edward Williams, a oedd yn weinidog yn Carr's Lane, Birmingham, lythyr at eglwysi canolbarth Lloegr yn mynegi'r angen i efengylu a chenhadu mewn rhannau eraill o'r byd. Bu'n effeithiol a cymerodd Williams ran flaenllaw yn y cynlluniau i sefydlu cymdeithas genhadol. Symudodd i Masbrough, Rotherham, yn 1795 i fod yn weinidog a thiwtor ar academi newydd Masbrough. Hefyd yn 1793, sefydlodd y clerigwr Anglicanaidd John Eyre yr Evangelical Magazine gyda chefnogaeth y Presbyteriad John Love a'r cynulledifaolwyr Edward Parsons a John Townshend.
Cynigiwyd sefydlu'r Gymdeithas Genhadol yn 1794 wedi i weinidog gyda'r Bedyddwyr, John Ryland, dderbyn gair gan William Carey, y cenhadwr o Fedyddiwr a oedd wedi ymfudo i Calcutta, ynghylch yr angen i ledaenu Cristnogaeth. Awgrymodd Carey bod Ryland yn cydweithio gydag unigolion o enwadau eraill yn yr un modd ag yr oedd y Gymdeithas Wrth-gaethwasiaeth wedi gweithio er mwyn goresgyn yr anawsterau a wynebwyd wrth geisio sefydlu meysydd cenhadol mewn gwledydd eraill. Bu enwadaeth yn rhwystr i godi arian i sefydlu cenhadaeth gynaliadwy, er enghraifft.
Ceisiai'r Gymdeithas greu fforwm ble gallai efengylwyr o wahanol enwadau weithio gyda'i gilydd a rhoi cefnogaeth ariannol i genhadaeth dramor. Roedd hefyd yn wrthwynebus i'r rhai a oedd eisiau ymdrin a phobl frodorol heb unrhyw gyfyngiadau masnachol neu filwrol.
Yn 1795, gofynnwyd i Spa Fields Chapel am ganiatad i gynnal oedfa bregethu yno i weinidogion ac eraill a oedd yn gefnogol i'r bwriad o anfon cenhadon tramor. Daeth cannoedd yno ar 22 Medi i sefydlu'r Gymdeithas Genhadol a buan y dechreuodd dderbyn llythyrau yn rhoi cefnogaeth ariannol neu gyflwyno ymgeiswyr ar gyfer y gwaith cenhadol.
Llyfryddiaeth
golyguE. Lewis Evans, Cymru a'r Gymdeithas Genhadol (Cymdeithas Genhadol Llundain, 1945)