Edward Williams (diwinydd ac athro Annibynnol)
Diwinydd ac athro annibynnol o Gymru oedd Edward Williams (14 Tachwedd 1750 – 9 Mawrth 1813). Ganwyd ef yn fab i Thomas ac Anne Williams o Glanclwyd, ger Dinbych. Derbyniodd ei addysg fore yn ysgolion gramadeg yn Llanelwy, Derwen a Caerwys. Roedd Thomas Jones (Dinbych) yn cyd-ddisgybl iddo yng Nghaerwys. Ymunodd a'r Methodistiaid wedi iddo glywed Daniel Rowland o Langeitho yn pregethu, ond erbyn 1770 roedd Williams wedi dechrau pregethu gyda'r Annibynwyr ac ymrestrodd yn fyfyriwr yn academi Y Fenni. Ordeinwyd yn weinidog yn Ross yn 1775 a galwyd ef i Groesoswallt yn 1777. Roedd yn cadw ysgol yno hefyd, ac yn 1782 symudwyd academi Y Fenni i'r dref a bu dan ei ofal tan 1791. Derbyniodd alwad i Carr's Lane, Birmingham, cyn diwedd 1791 ac ym 1792 daeth yn olygydd yr Evangelical Magazine. Ef hefyd oedd un o sylfaenwyr Cymdeithas Genhadol Llundain yn 1795. Daeth yn athro yn academi'r Annibynwyr yn Rotherham yn 1795.
Edward Williams | |
---|---|
Ganwyd | 1750 |
Bu farw | 9 Mawrth 1813 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, gweinidog yr Efengyl, tiwtor |
Ffynonellau
golygu- R. T. Jenkins, 'Williams, Edward (1750-1813), diwinydd ac athro Annibynnol', Y Bywgraffiadur Cymreig