Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru y Brenin Edward VII
Roedd Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru y Brenin Edward VII, a dalfyrwyd fel rheol i Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru neu Cymdeithas Goffa Genedlaethol Cymru er Dileu Twbercwlosis (Saesneg enw llawn: King Edward Wales National Memorial Association for the Eradication of Tuberculosis, enw arferol: King Edward VII Welsh National Memorial Association talfyriad WNMA) yn gymdeithas wirfoddol Gymreig a sefydlwyd i frwydro yn erbyn twbercwlosis. Ei phrif ysgogydd oedd David Davies, Barwn 1af Davies Llandinam oedd yn Aelod Seneddol ar y pryd. Heriodd Davies arweinwyr y dydd trwy gwestiynu: “os gellir ei wella, yna beth am wella?” (“if curable, then why not cured?”).[1]
Enghraifft o'r canlynol | mudiad gwirfoddol |
---|---|
Ffurf gyfreithiol | mudiad gwirfoddol |
Hanes
golyguCynullodd arglwydd faer Caerdydd, yr henadur John Chappell, gyfarfod yn Amwythig ar 30 Medi 1910 i benderfynu ar ba ffurf y dylai cofeb genedlaethol Gymreig i’r Brenin Edward VII fod. Penderfynodd y cyfarfod y dylai'r gofeb fod yn ymgyrch drefnus i ddileu'r diciâu yng Nghymru a Sir Fynwy. Codwyd £300,000 gan y cyhoedd, a hanner ohono'n rhodd gan y dyngarwr David Davies o Landinam, AS Rhyddfrydol Sir Drefaldwyn, oedd â diddordeb arbennig yn y frwydr yn erbyn twbercwlosis.[2] Yn ddiweddarach daeth yn llywydd cyntaf y WNMA, a gorfforwyd ar 17 Mai 1912. Gwahoddodd Thomas Jones, cyfaill a thywysydd gydol oes, i fod yn ysgrifennydd cyntaf WNMA.[3][4]
Roedd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Twbercwlosis) 1921 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol drin ac atal twbercwlosis. Fodd bynnag, yng Nghymru roedd yr WNMA eisoes yn bodoli. Rhoddodd y Ddeddf gyfrifoldeb statudol iddynt am frwydro yn erbyn twbercwlosis yng Nghymru.
Y Deml Heddwch
golyguErbyn i’r Deml Heddwch ac Iechyd (gelwir 'Y Deml Heddwch' fel rheol, bellach) gael ei hagor ym 1938, roedd y WNMA wedi tyfu i fod yn un o’r cyrff iechyd uchaf ei barch yn Ewrop a’r Ymerodraeth, ac yn arweinydd byd ar achosion a iachâd y dicâu. Bu’r WNMA yn meddiannu adain ddeheuol y Deml o 1938-46, pan ddaeth yn Awdurdod Trosiannol y GIG yng Nghymru yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, a chafodd y dasg o oruchwylio’r broses o uno darpariaethau a gwasanaethau iechyd presennol i greu Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.[1]
Yn dilyn ei amsugno i'r GIG, olynwyd rôl yr WNMA fel cangen 'iechyd' y Deml gan Fwrdd Ysbytai Cymru (WHB, 1946-73), Awdurdod Iechyd De Morgannwg (SGHA, 1973-2006) ac Iechyd Cyhoeddus Cymru (2006-2016).[1]
Archif
golyguCedwir archif y Gymdeithas yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Roedd y Llyfrgell Genedlaethol yn sefydliad genedlaethol y bu nifer o'r rhai bu'n weithgar wrth greu y Cymdeithas Goffa Genedlaethol, fel David Davies, ynghlym ag e hefyd.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "WNMA: the 'King Edward VII Wales National Memorial Association for the Eradication of Tuberculosis'". Gwefan Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Cyrchwyd 25 Ionawr 2024.
- ↑ Davies, Gwilym (2001). "DAVIES, DAVID of Llandinam (1880–1944)". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 26 October 2013.
- ↑ "Dr Thomas Jones CH Papers". archives.library.wales. National Library of Wales Archives and Manuscripts. Cyrchwyd 2 February 2021.
- ↑ Ellis, Ted (1992). T.J.: A Life of Dr Thomas Jones, CH. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-1138-5.
- ↑ "King Edward VII Welsh National Memorial Association". Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Cyrchwyd 25 Ionawr 2024.