Mae Casgliad y Werin (Saesneg: People's Collection Wales) yn wefan ac adnodd ac gyfer llwytho delweddau (ffotograffau a deunydd eraill wedi ei sganio) a sain, sy'n adrodd hanes a bywyd Cymru. Lansiwyd ar 2 Awst 2010.[1]

Casgliad y Werin

Cennad a Rheolaeth golygu

Yn ôl wefan Casgliad y Werin, cennad yr archif yw i ddarparu gwefan i lwytho ffotograffau sy'n dal storïau amdanynt ac yn cyfoethogi ein gwybodaeth am Gymru a'i phobl. Mae'r fenter hefyd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i unrhywun sydd â diddordeb mewn digido casgliadau mawr a phrosiectau cymunedol hanesyddol.

Caiff y fenter a’r wefan eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u rhedeg mewn partneriaeth gyda: Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru; Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru. Dros y blynyddoedd cafwyd cydweithrediad a pharteriaethau gyda 'Llafur: Cymdeithas Hanes Pobl Cymru', BBC Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Cadw, Croeso Cymru, Y Cerddwyr (The Ramblers) ac S4C.

Hyd at 2019 dim ond trwydded CC-NC oedd yn cael ei defnyddio, a olygai na all busnes, ysgolion na chymdeithasau ddefnyddio'r lluniau mewn llyfr, neu unrhyw gyhoeddiad, neu ddefnydd masnachol arall; golygai hefyd na allai Wicipedia mo'u defnyddio.[2]

Gall unigolion o'r cyhoedd, grwpiau neu gydmeithasau ychwanegu straeon ac atgofion ar ffurf lluniau, fideos a phenawdau er mwyn rhannu gwybodaeth am hanes at atgofion:

Cymuned
Teulu
Pentrefi, trefi a dinasoedd
Diwydiannau
Traddodiadau

Hanes golygu

Lansiwyd Casgliad y Werin yn 2010 [3] ac ymddengys y cafwyd ail-lansiad yn 2012 yn nghwmni'r darlledydd ac awdur Huw Edwards i gyd-fynd gyda chyfres deledu 'The Story of Wales' ar y BBC Wales.[4]

Bu'r adnodd, maes o law, yn archif ar gyfer partneriaethau eraill megis i gofio a chofnodi'r Rhyfel Byd Cyntaf.[5]

Cofnodwyd (nid yw'r dyddiad yn glir) bod dros 5,000 o gyfraniadau gan grwpiau neu unigolion ar y wefan ac mae 172 o grwpiau’n cymryd rhan weithredol yn y project.[3] ac erbyn 2019 roedd dros 20,000 o eitemau wedi eu sganio a'u harchifo ar y wefan.[6]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.bbc.co.uk/blogs/waleshistory/2010/08/launch_peoples_collection_wales.html
  2. casgliadywerin.cymru; adalwyd 15 Mai 2019.
  3. 3.0 3.1 https://amgueddfa.cymru/ymgynghori/dod_i_ben/casgliadau_arlein/
  4. cadw.gov.wales; adalwyd 15 Mai 2019.
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-15. Cyrchwyd 2019-05-15.
  6. cbhc.gov.uk; adalwyd 15 Mai 2019.