Cymdeithas Pysgota Cefni

Cymdeithas bysgota yw Cymdeithas Pysgota Cefni a sefydlwyd ym mis Hydref 1951.

Cymdeithas Pysgota Cefni
Llyn Cefni

Cefndir golygu

Lewis Jones oedd y Cadeirydd, OT Roberts Fferam Bailey oedd yr Is-gadeirydd a Jeffrey (Tim) Davies yn Ysgrifennydd. Yn 1952 cafodd y gymdeithas brydles ar Gronfa Llyn Cefni ac ym mis Mawrth y flwyddyn honno dechreuodd aelodau y gymdeithas bysgota am y tro cyntaf.

Brithyll Brown golygu

Rhwng y blynyddoedd 1956-1960 rhoddwyd 200,000 o Frithyll Brown bach i mewn i'r gronfa gan Herbert Evans a'i gyd-weithiwr o ddeorfa y bwrdd dŵr gyda'r wyau wedi eu casglu'n wreiddiol o'r ddwy afon sy'n rhedeg i'r gronfa sef Y Frogwy a'r Erddreiniog.[1] Yn Ebrill 1997 arwyddwyd prydles newydd a olygai y gall y gymdeithas bysgota am 28 mlynedd arall ac yn 2002 bu i'r gymdeithas ddathlu 50 mlynedd o bysgota ar y gronfa. Derbynwyd mainc i estedd arni fel rhodd gan Gymdeithas Bysgota Cricieth a Llanystymdwy i ddathlu'r achlysur.

Galeri golygu

Dolen allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Evans, Dylan. "Cefni Angling Association". www.llyncefni.co.uk (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-16. Cyrchwyd 2018-08-30.