Llyn Cefni
llyn ar Ynys Mon
Mae Llyn Cefni yn gronfa ddŵr a ffurfiwyd trwy adeiladau argae ar draws Afon Cefni ar Ynys Môn. Saif y llyn tua 1 km i'r gogledd o dref Llangefni ac i'r dwyrain o bentref Bodffordd.
| |
Math |
cronfa ddŵr ![]() |
---|---|
| |
Cysylltir gyda |
Afon Cefni ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
53.2711°N 4.3356°W ![]() |
![]() | |
DisgrifiadGolygu
Mae'r llyn yn hir a chul, yn rhedeg i'r gogledd-ddwyrain o Bodffordd. Mae tua 2.3 km o led ac mae ei arwynebedd yn 0.86 km²; Llyn Cefni yw'r llyn mwyaf ar Ynys Môn ar ôl Llyn Alaw. Caiff ei rannu'n ddau gan drac Rheilffordd Canol Môn. Er nad oes defnydd ar y rheilffordd bellach, mae'r cledrau yn parhau yn eu lle.
Mae llwybr beicio yn mynd heibio glan ddeheuol y llyn, ac roedd cuddfan adar yno, ond cafodd hon ei llosgi'n ulw gan fandaliaid yn ystod gaeaf 2006-07.