Cymdeithas Syr Goronwy Daniel
Sefydlwyd Cymdeithas Syr Goronwy Daniel yn 2009 fel cymdeithas ar gyfer gweision sifil Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru gan Siwan Gwyndaf. Enwyd y gymdeithas ar ôl Syr Goronwy Daniel, pennaeth cyntaf y Swyddfa Gymreig. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus cyntaf y gymdeithas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010 a siaradodd yr Athro Derec Llwyd Morgan, Dr Emyr Roberts, Caroline Turner, yr Athro Thomas Watcyn a David Daniel.
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Pencadlys | Cymru |