Cymdeithas sifil
Y rhannau cydweithredol o gymdeithas sydd ar wahân i'r wladwriaeth yw cymdeithas sifil. Mae'n cynnwys grwpiau cymdeithasol megis eglwysi a sefydliadau crefyddol eraill, busnesau a chwmnïau, y cyfryngau torfol, elusennau, carfanau pwyso, undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol, clybiau, a mudiadau cyfundrefnol. Mae'r rhwydweithiau hyn yn galluogi unigolion i weithredu mewn ffyrdd cymunedol heb ymyrraeth y wladwriaeth. Weithiau cynhwysir teuluoedd yn rhan o gymdeithas sifil,[1] ond mae nifer o ddiffiniadau yn hepgor y teulu yn ogystal â'r unigolyn.[2] Mae cymdeithas sifil yn gysyniad pwysig yn syniadaeth gyfoes ynglŷn â democratiaeth ryddfrydol.
Mae nifer o gymdeithasegwyr a gwyddonwyr gwleidyddol yn defnyddio'r cysyniad hwn fel fframwaith i ddadansoddi'r byd cymdeithasol ar wahân i'r llywodraeth a'r awdurdodau swyddogol. Y brif anfantais sydd gan ddull deongliadol o'r fath ydy anwybyddu'r cydberthnasau cymhleth rhwng y wladwriaeth a chymdeithas. Mae'r dadansoddiadau hyn hefyd yn tueddu i esgeuluso pwysigrwydd y byd economaidd ac effeithiau'r farchnad ar syniadau, traddodiadau, a gwerthoedd cymdeithas sifil.[3]
Yn ogystal â disgrifiad o rwydweithiau cymdeithasol, gall hefyd defnyddio'r term cymdeithas sifil i gyfeirio at werth neu ddyhead a arddelir fel rhagamod o ddemocratiaeth. Dadleuir rhai moesegwyr a damcaniaethwyr gwleidyddol taw dirywiad cymdeithas sifil sydd ar fai am broblemau cymdeithasol-wleidyddol yn y byd modern.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Andrew Heywood, Key Concepts in Politics (Basingstoke, Hampshire: Palgrave, 2000), tt.17–18.
- ↑ (Saesneg) "Civil society" yn A Dictionary of Sociology (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 30 Awst 2019.
- ↑ (Saesneg) Civil society. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Awst 2019.