Sefydliad neu grŵp o bobl sydd yn rhannu'r un diddordeb, safbwynt neu bryder yw carfan bwyso. Nod y fath sefydliad yw dylanwadu ar farn y cyhoedd ac i lobïo'r llywodraeth er lles ei aelodau. Gall sefydliadau megis undebau llafur, cymdeithasau proffesiynol, ac elusennau i gyd ymddwyn fel carfanau pwyso. Mae'r garfan bwyso gyffredin yn gweithredu drwy ddulliau anuniongyrchol, naill ai drwy dynnu ar nerth ei aelodaeth megis deisebau a phrotestiadau, neu drwy gyhoeddi adroddiadau a ballu i ddadlau dros ei achos. Nodir y carfanau mwyaf pwerus – er enghraifft y rhai sydd â'r nifer fwyaf o aelodau neu sydd yn meddu ar awdurdod arbenigol – gan "fynediad gwleidyddol", hynny yw y gallu i bwyso ar y llywodraeth yn uniongyrchol drwy gynghori ar faterion neilltuol neu drwy gysylltiadau agos â gwleidyddion a gweision sifil. Ystyrir y garfan bwyso yn agwedd bwysig o wyddor gwleidyddiaeth ac yn hanfodol wrth esbonio dewis ar y cyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. Roger Scruton, The Palgrave Macmillan Dictionary of Political Thought, 3ydd argraffiad (Basingstoke: Palgrave Macmillan, 2007), t. 338.