Cymdeithas y Cymreigyddion

cymdeithas i'r Cymry yn Llundain, gyda'r bwriad o gadw'r Gymraeg yn bur

Sefydlwyd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Llundain yn 1794 gyda'r bwriad o gadw'r Gymraeg yn bur trwy drafod materion cyfoes ac o bwys. Ymysg sefydlwyr y gymdeithas newydd yr oedd John Jones (Jac Glan-y-gors) a Thomas Roberts, Llwyn'rhudol.

Cymdeithas y Cymreigyddion
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, cymdeithas Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1795 Edit this on Wikidata

Yr oeddent fel gweddill y cymdeithasau Cymraeg yn Llundain fel arfer yn cynnal eu cyfarfodydd mewn tafarndai lleol ac fel mae eu cofnodion yn dangos fe allai'r cyfarfodydd ar adegau fynd tros ben llestri. Ond erbyn canol y 19eg ganrif fe wnaeth parchusrwydd oes Victoria hi yn amhosib iddynt gynnal eu cyfarfodydd fel yr oeddent wedi dod i arfer ac yn 1855 daeth terfyn ar y gymdeithas.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.