Cymorth:Gweithdy Cyfieithu/corff
Nod y Gweithdy Cyfieithu golygu
Nod y Gweithdy Cyfieithu yw ddarparu cymorth i olygwyr sy'n cyfieithu erthyglau o wicis eraill i'r Wicipedia Cymraeg. Mae'r gweithdy hefyd yn cydlynu'r gwaith o gyfieithu erthyglau, yn rhoi cyfle i gyfieithwyr newydd ymarfer eu sgiliau, a rhoi gwybod i gyfieithwyr profiadol pa waith sydd angen ei gywiro.
Sut i ymuno golygu
Ymunwch i dderbyn cymorth golygu
Os ydych yn ddefnyddiwr newydd, neu'n newydd i'r broses o gyfieithu, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel myfyriwr. Dysgwch sut i gyfieithu drwy'r tiwtorial, gofynnwch gwestiynau, defnyddiwch adnoddau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd.
Ymunwch i ddarparu cymorth golygu
Os ydych yn ddefnyddiwr neu'n gyfieithydd profiadol sydd am helpu defnyddwyr eraill, rhowch eich enw ar y rhestr aelodau fel cynghorwr. Atebwch gwestiynau gan ddefnyddwyr eraill, darparwch adnoddau, cywirwch erthyglau, a thrafodwch y gweithdy ar y negesfwrdd.
Nodyn ar beiriannau cyfieithu golygu
Gall cyfieithu peirianyddol megis Google Translate neu Bing Translator fod o gymorth wrth gyfieithu, ond ar y cyfan maent yn annibynadwy wrth drosi brawddegau a pharagraffau llawn a gall droi testun yn lol llwyr. Rydym yn rhoi'r nodyn {{Google Translate dim diolch}} ar dudalennau sgwrs cyfranwyr sydd yn amlwg yn defnyddio Google Translate i greu erthyglau.
Dolenni golygu
Dolenni allanol golygu
- Cyfieithiad yr Wythnos ar Meta-Wici