Darpariaeth gofal iechyd yn y fan a'r lle (neu'n "gyntaf") yw cymorth cyntaf. Ei bwrpas yw trin claf ar unwaith, cyn y gellir rhoi triniaeth feddygol, broffesiynol.[1] Er enghraifft rhodir triniaeth cymorth cyntaf cyn i'r claf gyrraedd ysbyty neu yn y cartref a hynny, fel arfer gan leygwr. Yn aml does dim rhaid wrth driniaeth pellach. Er y gellir hefyd roi triniaeth cymorth cyntaf i anifeiliaid, mae'r term fel arfer yn cyfeirio at bobl.

Symbol cymorth cyntaf yr ISO.

Ymdrinir â phroblemau difrifol yn gyntaf, megis gwaedu, gweithrediad y galon, a'r gallu i anadlu. Os yw'r claf yn ymwybodol, gofynnir iddo gwestiynau am ei hanes meddygol a chaiff ei gysuro'n gyson. Os nad yw'r claf yn ymwybodol, edrychir am freichled neu gerdyn adnabod meddygol. Mae'n rhaid cadw'r claf yn gynnes ac yn gyfforddus a'i symud cyn lleied ag y bo modd.[1]

Hanes golygu

Ymhlith y corff cyntaf o bobl i ymdrin â chlwyfau y mae Marchogion yr Ysbyty a fu'n weithgar yn y 11g ac a sefydlwyd gan y Pâb Paschal II.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Mosby's Medical Dictionary (St Louis, Missouri, Mosby Elsevier, 2009 [wythfed argraffiad]), t. 730. ISBN 978-0323052900
  2. "Knights of Malta - gwefan answyddogol; adalwyd 28/10/2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-14. Cyrchwyd 2012-10-28.