Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Ysbyty Ifan.[1][2] Lleolir y pentref ar lannau Afon Conwy ifanc, rhai milltiroedd i'r de o Bentrefoelas ar lôn y B4407 (sy'n cysylltu Pentrefoelas ar yr A5 â Ffestiniog). Hen enw Ysbyty oedd "Dolgynwal".

Ysbyty Ifan
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth196 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,798.66 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.021°N 3.723°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000139 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/auRobin Millar (Ceidwadwyr)
Map
Ysbyty Ifan

Hanes golygu

Yn yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal yn rhan o gwmwd Is Aled, cantref Rhufoniog. Daw enw'r pentref o un o ysbytai Marchogion yr Ysbyty a sefydlwyd yno tua'r flwyddyn 1190 gan Ifan ap Rhys o Drebrys, yn ôl traddodiad; does dim olion o'r safle i'w gweld heddiw. Er bod Ysbyty Ifan yn ymddangos yn lle digon diarffordd heddiw, yn yr Oesoedd Canol safai ar ffordd bwysig a gysylltai Llŷn ac Eryri i'r gorllewin ac ardaloedd y Gororau i'r dwyrain. Cafodd yr Ysbyty nawdd gan Llywelyn Fawr a Llywelyn Ein Llyw Olaf ac yn y 13g roedd gan y sefydliad enw da am ei letygarwch. Roedd gan yr ysbyty (hosbis), a godwyd ar gyfer teithwyr a phererinion i Ynys Enlli, yr hawl gyfreithiol i fod yn noddfa ac yn ddiweddarach arweiniodd hynny at sawl herwr guddio yno neu yn y cyffiniau. Parhaodd y sefyllfa felly hyd y 15g pan roddodd yr uchelwr lleol Maredudd ap Ieuan derfyn arno.[3]

 
Merched yr elusendai, tua 1875

Adeiladau hanesyddol golygu

 
Melin dŵr Ysbyty Ifan.
 
Eglwys Sant Ioan

Pont a melin golygu

Mae pont ddeniadol sy'n dyddio o'r 18g yn croesi Afon Conwy yn y pentref. Gerllaw ceir bythynnod traddodiadol sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth werinol Eryri a'r cylch. Ar lan yr afon saif hen felin a adeiladwyd yn yr 17g. Am gyfnod defnyddid olwyn dŵr y felin i gynhyrchu trydan (hyd 1961).

Yr eglwys golygu

Codwyd yr eglwys bresennol, Eglwys Sant Ioan, yn 1861 ar safle'r hen eglwys. Ynddi cedwir tair cofeb o'r hen eglwys, o Rys Fawr ap Maredudd o Fryn Gwyn, a ddygodd faner Harri Tudur ar Faes Bosworth, ei wraig Lowri, a'u trydydd fab Robert, a fu'n gaplan i'r Cardinal Thomas Wolsey.[4]

Ym mynwent yr eglwys mae bedd Sion Dafydd Berson neu Sion Dafydd Glocsiwr oedd yn berson yn hen gapel yr Owen ym Mhentrefoelas; ef oedd athro Twm o'r Nant ac ef a'i dysgodd i ddarllen gyntaf. Ar ei garreg fedd mae englyn gan Twm o'r Nant i'w hen athro: "Galar, i'r ddaear ddu - aeth athraw..."

Hen anheddau golygu

Bu Helga Martin yn tynnu lluniau hen fyrddynnod y plwyf yn 2012-13. Fe‘u cyhoeddwyd ym Mwletinau Llên Natur [1] Archifwyd 2021-01-25 yn y Peiriant Wayback.:

Mur Poeth

Cafwyd yr ymateb canlynol i lun Helga Martin o hwn:

Thank you for sharing this photograph. According to a christening record in Ysbyty Ifan parish records this house Murpoeth was occupied by Morice Faulk, a cottager, his wife Elizabeth nee Jones and new daughter Gwen on 25th September 1814. I believe they are ancestors of mine. It's marked on the 1838 first edition Ordnance Survey map too.[2]

Enghreifftiau eraill o luniau i’w gweld ar wefan Llên Natur [3] (chwilier am Ysbyty Ifan gan ddewis Oriel) yw Bryniau Defaid, Hafod Uddig, Moelfryn, Trawsnant, Gwernhywel Bach, Graig Ddu, Bryn Tirion, Bryn Gwyn, Y Fedw, Cefn Gwyn, Cefn Garw, Ty Cipar, Rhyd Goch, Ty Bach Mynydd, Rhyd yr Uchain [sic.] a Beudy Ty’n Coed.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ysbyty Ifan (pob oed) (196)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ysbyty Ifan) (151)
  
79.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ysbyty Ifan) (159)
  
81.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ysbyty Ifan) (19)
  
25%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. W. Ogwen Williams, "A note on the history of Ysbyty Ifan", Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, cyf. 15 (1954).
  4. W. Ogwen Williams, op. cit..
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.