Mae Cymraeg Clir yn brosiect Canolfan Bedwyr i helpu ysgrifennu dogfennau cyhoeddus mewn iaith glir a syml.

Logo Cymraeg Clir, Canolfan Bedwyr
Logo Cymraeg Clir, Canolfan Bedwyr

Yn ôl gwefan Canolfan Bedwyr, uned Iaith Prifysgol Bangor: “mae llawer gormod o Gymry Cymraeg yn teimlo bod y dogfennau Cymraeg yn rhy anodd eu deall a'u defnyddio, ac yn troi at y fersiwn Saesneg.”

Mae logo marc Cymraeg Clir sy'n debyg i'r Crystal Mark gan y Plain English Campaign yn gallu cael ei rhoi ar ddogfen Cymraeg Clir.

Iaith glir golygu

Mae prosiectau tebyg ar gyfer llawer o ieithoedd eraill. Mewn llawer o wledydd, mae cyfreithiau yn dweud bod rhaid i asiantaethau cyhoeddus defnyddio iaith glir i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle teg i ddefnyddio eu gwasanaethau.

Mae'r Plain Language Association International (PLAIN) yn gymdeithas ryngwladol ar gyfer gweithwyr proffesiynol iaith glir sy’n hyrwyddo cyfathrebu clir mewn unrhyw iaith. [1]

Mae'r Plain English Campaign wedi bod yn ymgyrchu yng Ngwelydd Prydain ers 1979 "yn erbyn gobbledygook, jargon a gwybodaeth gyhoeddus gamarweiniol." Maen nhw'n credu dylai pawb gael gwybodaeth glir ac wedi helpu llawer o sefydliadau i wella’u cyhoeddiadau. Mae rheoliadau "Telerau Annheg mewn Contractau Defnyddwyr" 1999 yn gorchymyn iaith "plaen a dealladwy".[2]

Yn yr Unol Daleithiau, dechreuodd y Plain Language Movement gwyno am gyfathrebu'r sâl y llywodraeth America yn y 1970au. Ers 2010 mae'r Ddeddf Ffederal Ysgrifennu Plaen yn dweud bod rhaid i asiantaethau defnyddio iaith glir gyda'r cyhoedd.[3]

Mae'r Wicipedia Simple English yn fersiwn o Wicipedia gyda miloedd o erthyglau mewn Saesneg clir. Mae’n defnyddio geiriau a gramadeg haws i'w deall na'r Wicipedia Saesneg arferol.

Mae Simplified English a Simplified Technical English yn ceisio cadw at y 850 o eiriau Saesneg mwyaf cyffredin eu defnydd[4].

Mae Einfacher Sprache (iaith syml) yn fersiwn symlach o'r iaith Almaeneg, heb frawddegau cymhleth neu eiriau anghyfarwydd. Mae grŵp targed yn cynnwys y nifer fawr o bobl sydd wedi symud i'r Almaen o wledydd eraill yn ddiweddar ond hefyd siaradwyr Almaeneg sydd ddim yn gallu darllen cystal. Mae rhaglenni newyddion mewn Einfacher Sprache ar y brif sianel radio Deutschlandfunk[5]

Mae Français fondamental yn fersiwn symlach o'r iaith Ffrangeg gyda'r nod o ddysgu Ffrangeg i dramorwyr. Dangosodd arolygon yn y 1950au a'r 1960au bod nifer fach o eiriau mewn Ffrangeg safonol yn cael eu defnyddio yr un ffordd ym mhob sefyllfa. Felly, mae Français fondamental yn defnyddio llai o eiriau na Ffrangeg safonol.[6] Creodd lywodraeth Ffrainc y 'Pwyllgor i Symleiddio'r Iaith Swyddogol' – COSLA (Comité d'orientation pour la simplification du langage administratif), i wella'r iaith swyddogol. [7]

Dechreuodd Mecsico symleiddio iaith y llywodraeth yn 2004 gyda'r prosiect Lenguaje Ciudadano (Iaith y dinesydd). Y bwriad oedd rhoi negeseuon y llywodraeth yn glir. [8]

Canllawiau Cymraeg Clir golygu

 
Clawr Llyfr Cymraeg Clir, Canolfan Bedwyr

Mae'r llyfr Cymraeg Clir yn cynnwys 16 prif rheol:

Cymraeg Clir, Canllawiau Iaith, Cen Williams, Gwasg Dwyfor 1999 (ISBN 1 898817 49 9)

  1. Defnyddiwch frawddegau byr (rhyw 20 - 25 gair)
  2. Dilynwch ddull naturiol y Gymraeg wrth sgrifennu e.e. rhowch y ferf (gair gwneud) yn gyntaf os yw'n bosib.
  3. Peidiwch â defnyddio gair ffansi, gair dieithr, gair hir iawn na gair technegol os bydd gair mwy cyffredin yn gwneud yr un gwaith.
  4. Cyfarchwch y darllenydd mewn ffordd naturiol (e.e. darllenwch, byddwch yn gwybod a.y.y.b.). Peidiwch â ‘siarad i lawr' atynt.
  5. Cofiwch atalnodi gan ei gadw mor syml ag y gallwch. Cofiwch mai'r atalnodi sy'n dweud wrth y darllenydd ble y byddech chi'n oedi.
  6. Defnyddiwch fwledi i rannu brawddeg hir yn bwyntiau byr.
  7. Cadwch ddigon o wyn ar y dudalen (h.y. peidiwch â gorlwytho'r dudalen â phrint).
  8. Rhowch eich gwaith i gydweithiwr edrych drosto. Ydi o/hi yn deall popeth? Oes ‘na sgrifennu niwlog a gor-dechnegol?
  9. Peidiwch â defnyddio gormod o ddywediadau ac idiomau. Gadewch y rheini i nofelwyr y genedl.
  10. Defnyddiwch iaith fydd yn gweddu i'r gynulleidfa ac yn addas i'r pwrpas, (Cywair).
  11. Peidiwch â defnyddio gormod o gollnodau (‘) i ddangos bod llythrennau ar goll (e.e. mae ble a rwyf yn dderbyniol; does dim rhaid sgrifennu b'le a ‘rwyf).
  12. Peidiwch â defnyddio jargon ac ymadroddion llanw e.e. ar ddiwedd y dydd, yn y byr dymor canolig, ar ôl pwyso a mesur, ymhellach i'ch llythyr, ysgrifennaf mewn ymateb i'ch gohebiaeth a.y.y.b.
  13. Defnyddiwch rifau e.e. 24, 6, 18 yn hytrach na'u hysgrifennu. Felly hefyd gyda dyddiadau - 1988, 1945 a.y.y.b.
  14. Treiglo - ar bosteri, ffurflenni a.y.y.b. ceisiwch sgrifennu mewn ffordd sy'n osgoi treiglo. Yr un fath gyda gair dieithr.
  15. Amhersonol - peidiwch â gor-ddefnyddio'r ffurfiau yma (gwelir, gwelwyd, aseswyd a.y.y.b.). Un ffordd o'u hosgoi yw peidio defnyddio'r amhersonol + gan. Cyfarchwch y darllenydd yn naturiol (edrychwch ar rif 4).
  16. Defnyddiwch frawddegau gweithredol lle mae'n bosib (e.e. Ciciodd y ceffyl fi yn hytrach na Cefais fy nghicio gan y ceffyl).


Cyfeiriadau golygu

  1. https://plainlanguagenetwork.org/
  2. "Plain English Campaign". Plain English Campaign. Cyrchwyd 7 Ebrill 2023.
  3. https://www.plainlanguage.gov/resources/articles/beyond-a-movement/
  4. wikt:https://en.wiktionary.org/wiki/Appendix:Basic English word list
  5. https://www.deutschlandfunk.de
  6. https://web.archive.org/web/20051012105121/http://colloqueff.ens-lsh.fr/franc/indexfr.htm
  7. https://www.legifrance.gouv.fr/loda/id/LEGITEXT000026893023
  8. https://mejoraregulatoria.edugem.gob.mx/assets/manual-de-lenguaje-ciudadano.pdf