Cymraeg llafar
Yr iaith Gymraeg fel y mae'n cael ei siarad yn hytrach na'i hysgrifennu yw Cymraeg llafar. Mae'n wahanol i'r iaith ysgrifenedig o ran geirfa, gramadeg a morffoleg. Ceir o'i mewn sawl cywair ieithyddol tra wahanol, a sawl tafodieithoedd.
Cyweiriau
golyguMae gan y Gymraeg amrywiaeth gyfoethog o gyweiriau ieithyddol, o iaith hynod ffurfiol (boed yn dechnegol neu'n llenyddol) i fratiaith, gan gwmpasu ystod eang o gyweiriau lled-ffurfiol ac anffurfiol. Mae'r cyweiriau i gyd yn amrywio yn ôl tafodiaith, ond y cyweiriau llai ffurfiol sy'n tueddu amrywio mwyaf.
Tafodieithoedd
golygu- Prif: Tafodieithoedd y Gymraeg
Mae peth gwahaniaeth rhwng Cymraeg y gogledd a Chymraeg y de. Mae tuedd i or-ddweud hyn. Mewn gwirionedd, nid yw'n ddim mwy na'r gwahaniaeth a glywir yn y Saesneg mewn ardaloedd gwahanol o Loegr. Er hynny, mae'n sbort gan y Cymry gael hwyl am ben eu hacenion gwahanol; yr 'hwntws' a'r 'gogs' fel y gelwid hwy gan ei gilydd.
Ychydig enghreifftiau:
Llyfryddiaeth
golyguFfynonellau'r erthygl
golygu- Beth Thomas a Peter Wynn Thomas, Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg…Cyflwyno'r Tafodieithoedd (Gwasg Taf, 1989)
Dywediadau tafodieithol ac iaith lafar
golygu- Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad
- Siân Williams, Ebra Nhw (1981)
- Owen John Jones, Dywediadau Cefn Gwlad (1977)– Llŷn ac Eifionydd
- John Jones, Gwerin-eiriau Sir Gaernarfon (1979)
- Lynn Davies, Geirfa'r Glöwr (1976)
- C Jones a D Thorne, Dyfed: Blas ar ei thafodieithoedd (1992)
- Erwyd Howells, Dim ond Pen Gair: Casgliad o ddywediadau Ceredigion (1990)
- D Moelwyn Williams, Geiriadur y Gwerinwr (1975)