Agor y brif ddewislen

Mae'r dwrgi neu ddyfrgi yn anifail cigysol â chanddo gôt o flew llwydfrown tywyll, traed gweog i'w alluogi i nofio, a chynffon lydan i'w lywio mewn dŵr. Mae'n perthyn yn agos i'r wenci ac mae'n byw yn rhannol mewn dŵr - dŵr ffres neu ddŵr hallt. Maen' nhw'n bwyta pysgod yn bennaf. Bu bron i'r dyfrgi ddiflannu o wledydd Prydain yn y 1960au.


Ffeithiau difyrGolygu

Casglwyd y ffeithiau canlynol am y dyfrgi gan blant Ysgolion Llangoed a Biwmares[1]

  • Mae wisgers y dyfrgi yn hir ac yn helpu'r dyfrgwn i ddod o hyd i fwyd o dan y dŵr.
  • Mae ganddyn nhw goesau cryf a byr ar gyfer nofio.
  • Mae dyfrgwn yn cadw at ei gilydd.
  • Mae dyfrgwn yn bwyta anifeiliaid eraill.
  • Maent yn byw mewn gwâl (den neu holt) ac yn bwyta pysgod.
  • Mae dyfrgwn yn cysgu ty mewn i ceilp i stopio nhw rhag arnofio.
  • Mae dyfrgwn yn hela am ceilp.
  • Mae dyfrgwn mawr yn brin iawn.

Y dwrgi yn y cyfreithiau CymreigGolygu

Yn ôl y Gyfraith Gymreig (Cyfraith Hywel Dda) yn yr Oesoedd Canol roedd y dwrgi yn un o dri anifail yr oedd gan bawb yr hawl i'w hela. "Tri hela ryd yssyd y bop dyn ar tir dyn arall: hela iwrch, a chatno, a dyfyrgi" (Llyfr Blegywryd, t.119, ll.7); "Tryded hele ryd, heyt wenyn ar wrysgen a llvynauc a dyuyrgy, canyt oes adlam udunt vrth ev bot ar kerdet en wastat" (Llyfr Iorwerth, adran 135). Roedd ei groen yn werth wyth geiniog, wyth gwaith mwy na chroen dafad (ibid., adran 137).

CyfeiriadauGolygu

Aled Rhys Wiliam (gol.), Llyfr Iorwerth (Caerdydd, 1960). ISBN 0708301142

Stephen J. Williams a J. Enoch Powell (gol.), Cyfreithiau Hywel Dda yn ôl Llyfr Blegywryd (Caerdydd, ail arg., 1961).

  Eginyn erthygl sydd uchod am famal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  1. Ymchwil plant Bro Seiriol, Môn