Cymreigio
Y broses o wneud rhywbeth yn Gymreig neu'n Gymraeg yw Cymreigio, yn enwedig o ran iaith.
Cofnodwyd y defnydd cyntaf o'r gair Cymreigio (G. Geiriadur Prifysgol Cymru) gan Thomas Baddy yn ei lyfr Pasc y Christion yn y flwyddyn 1703, er bod defnydd o'r gair tebyg cymreigu yn 1595 yn y llyfr Deffynniad Ffydd Eglwys Loegr a gyfieithwyd o lyfr yn Lladin gan Morris Kyffin.[1]
Bellach mae'r gair Cymreigio'n cael ei ddefnyddio mewn sawl maes gan gynnwys ymgyrchu iaith[2], meddalwedd a'r we[3][4], mathau eraill o dechnoleg, a gwyddoniaeth.[5]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cymreigiaf. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
- ↑ http://cymdeithas.cymru/ymgyrch-cymreigio-ms
- ↑ http://techiaith.bangor.ac.uk/ategyn-cymreigio-porwyr/
- ↑ http://www.mentrauiaith.cymru/uncategorized/making-the-web-more-welsh-every-menter-iaith-to-use-the-cymru-domain/
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/19197038