Benthyg geiriau i'r Gymraeg


Mae benthyg geiriau i'r Gymraeg yn broses sy'n digwydd i bob iaith a chanddi gysylltiadau cryfion ag ieithoedd a phobloedd eraill. Dros y canrifoedd, benthyciwyd i'r Gymraeg o'r Lladin, y Wyddeleg, y Ffrangeg, a'r Saesneg yn bennaf. Ceir rhai benthyceiriau Cymraeg sy'n tarddu o'r Hen Norseg, y Roeg, a'r Hebraeg yn ogystal. Ar hyn o bryd, o'r Saesneg y benthycir y mwyaf o eiriau, ac o ieithoedd eraill y byd trwy'r Saesneg (e.e. 'glasnost' o'r Rwseg).

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu

Lladin golygu

Mae'r Gymraeg wedi benthyca lliaws o eiriau o'r Lladin ar hyd yr oesau, naill ai'n syth o'r Lladin neu trwy ieithoedd eraill. Yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ym Mhrydain, yn agos i bedair canrif, fe fenthycid geirfa Ladin helaeth i’r Frythoneg, yn enwedig geirfa oedd yn disgrifio’r pethau newydd y daeth y Rhufeinwyr â hwy ganddynt megis ffenestr (Lladin: fenestra). Ceid benthyg geirfa yn ymwneud ag iaith cyfathrach fasnachol bob dydd, technoleg newydd (saernïaeth, amaethyddiaeth, milwriaeth), y corff, yr Eglwys, a dyddiau'r wythnos.

Gellir adnabod y benthyciadau cynnar hyn oherwydd eu bod wedi eu trawsnewid i'r Gymraeg mewn ffyrdd a ymdebygai i'r trawsnewidiadau o'r seiniau Brythoneg tebyg iddynt. Pan na fyddai llafariad Brythoneg yn bod a fyddai'n cyfateb i lafariad y Lladin gwreiddiol byddai cam ychwanegol yn hanes y gair, e.e. ō Ladin → au Frythoneg → u Gymraeg.

Mae rhai geiriau Lladin wedi cael eu benthyg droeon ar hyd yr oesau ac ystyron gwahanol i'r geiriau Cymraeg a ffurfiwyd. Benthyciwyd enwau priod droeon hefyd, e.e. Iōannes sydd wedi esgor ar Ieuan, Ifan, Iwan, Siôn (trwy'r ffurf Saesneg John), Ioan (yn ôl y patrymau addasu geiriau a oedd yn berthnasol ar adeg y benthyciad yn y Lladin ac yn y Frythoneg/Gymraeg).

Defnyddid Lladin yn iaith ysgrifenedig gan ysgolheigion Ewrop am amser maith. Lladin hefyd oedd prif iaith yr eglwys hyd at y Diwygiad Protestannaidd. Ceid benthyg termau ysgolheigaidd a thermau eglwysig o'r Lladin megis eglwys. Pan gyfieithwyd y Beibl i'r Gymraeg bathwyd termau newydd yn seiliedig ar Ladin gan mwyaf ond yn cynnwys ambell air Hebraeg a Groeg megis iot o'r Roeg.

Gwyddeleg golygu

Mae ôl enwau llefydd Gwyddelig yng Nghymru yn deillio o'r adeg y bu Gwyddelod yn teyrnasu ar rannau o Gymru megis Llŷn sy'n tarddu o'r enw Lagan, sef 'gwŷr Leinster'. Yn ogystal â bod Gwyddelod yn byw yng Nghymru byddai llawer o fynd a dod rhwng Iwerddon a Chymru yn enwedig ar ran yr eglwys Gristnogol gynnar. Mae'r cysylltiad ag Iwerddon yn amlwg ym Mhedair Cainc y Mabinogi a chwedlau cynnar eraill yn ogystal. Benthycid geiriau o'r naill iaith i'r llall. Fe dybir bod y canlynol wedi cael eu benthyg o'r Wyddeleg -

Gwyddeleg       Ystyr y Wyddeleg       Cymraeg
brat mantell; clwt brat
cadach calico cadach
Gwydd. C. díchell ymdrech, ymgais dichell
cut(a)im cwymp codwm
H. Wydd. cnocc bryn; lwmp neu
friw chwyddedig
cnwc

Hen Norseg golygu

Tybir bod y Gymraeg wedi derbyn ambell i air Hen Norseg adeg ymosodiadau'r Llychlynwyr (9fed a 10g), e.e. iarll o iarl, gardd o gardhr. Mae nifer o eiriau o dras Hen Norseg yn y Gymraeg ond ni wyddys i sicrwydd ai yn uniongyrchol o'r Hen Norseg y trosglwyddwyd hwy ynteu a gyraeddasant trwy'r Saesneg. Tybir bod y benthyciadau uniongyrchol o'r Hen Norseg yn brin oherwydd ychydig iawn o Lychlynwyr a ymsefydlodd yng Nghymru mewn cymhariaeth â Lloegr.

Ffrangeg golygu

Yn ystod y Canol Oesoedd roedd Ffrangeg wedi ennill ei phlwyf yn llysoedd tywysogion Ewrop gan gynnwys llysoedd tywysogion Cymru. Roedd Ffrangeg yn ogystal â Lladin wedi dod yn iaith ysgolheigion. Gyda dyfodiad y Normaniaid i Loegr ac wedyn Cymru y cyrhaeddodd termau eu technoleg newydd, yn enwedig ar gyfer ymladd a champau, megis tŵr, twrnamaint, palffrai, a harnais. Cyfieithwyd ac addaswyd rhai chwedlau o'r Ffrangeg i'r Gymraeg gan fabwysiadu geiriau Ffrangeg wrth gyfieithu.

Yn ogystal â chael benthyg yn uniongyrchol o'r Ffrangeg cafwyd benthyg geiriau hefyd trwy'r Saesneg. Nid oes sicrwydd p'un ai tarddu'n uniongyrchol ynteu'n anuniongyrchol o'r Ffrangeg y mae rhai geiriau.

Saesneg golygu

Benthyciwyd yn helaeth o'r Saesneg i'r Gymraeg trwy'r oesau. Benthyciwyd termau o feysydd amrywiol o'r Hen Saesneg gan gynnwys termau masnach (ee. punt o pŭnd), termau'r tŷ a'r fferm, (berfa o bearwe, llyffethair o lang feter). Enghreifftiau eraill o'r amrywiaeth o fenthyciadau a ddigwyddodd cyn dyfodiad y Normaniaid yw het o haet, hosan o hosa, cusan o cyssan, dewr o dior, sur o sūr. Wedi dyfod o'r Normaniaid parhau a wnaeth y benthyg geiriau yn sgil y mynd a dod ar draws Clawdd Offa. Gellir olrhain nifer o fenthyciadau i adeg Saesneg Canol (cyn yr unfed ganrif ar bymtheg) trwy fod olion yr ynganiad Saesneg Canol yn aros yn y gair Cymraeg modern ond bod yr ynganiad Saesneg wedi newid, e.e. abl, acer, bacwn (a fer Saesneg Canol wedi newid i a fel yn y gair Saesneg modern able) a cnaf, cnap, cnoc (lle collwyd yr c yn Saesneg). Erys ôl y terfyniad lluosog Saesneg Canol –es yn y geiriau Cymraeg lluosog betys, cocos, ffigys, taplas, ayb.

Ers twf dwyieithrwydd a Seisnigeiddio yng Nghymru mae llu o eiriau Saesneg wedi eu benthyg ac yn dal i gael eu benthyg. Yn gyffredinol po ddiweddaraf yw'r benthyciad po amlycaf yw tarddiad Saesneg y gair. Wrth gael eu cymathu i'r Gymraeg mae berfau Saesneg yn aml yn magu'r terfyniad –o. Weithiau fe ddisodlir gair Cymraeg gan derm newydd, e.e. swnd am dywod. Tro arall ceir gwahaniaeth ystyr rhwng yr ymadrodd newydd a'r ymadrodd gwreiddiol Saesneg, e.e. wedi mynd ac wedi went. Defnyddir wedi went yn y de i olygu bod rhywbeth wedi mynd i ben, bod cyflenwad rhywbeth wedi dibenni neu fod rhywun neu rywbeth wedi mynd â'ch gadael.[1] Mae'r gair benthyg seiat yn golygu cyfarfod Eglwys ac yn tarddu o'r gair Saesneg society. Cynhwysir y benthyciadau canlynol ar un dudalen yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru; weierles, wëid, weindio, weiper, weirio, weiter, weitwash, wej, wejen, wel, welcwm, weldio, welintons.

Dwbledi golygu

Mae'r iaith Gymraeg yn cynnwys nifer o ddwbledi, sef geiriau sydd wedi dod o'r un bôn ond wedi datblygu yn eiriau gwahanol yn yr iaith fodern. Weithiau, mae'r geiriau hyn yn rhai brodorol, hynny yw, maent wedi datblygu yn annibynnol o fewn y Gymraeg. Mae enghreifftiau o hyn yn cynnwys anadl ac enaid sydd yn dod o'r bôn Proto-Indo-Ewropeg *h₂enh₁- "anadlu" neu cae, cael, caen, caer a cau sydd i gyd yn dod o *kagʰ- "cymryd, cipio". Yn ogystal â hyn, mae geiriau benthyg yn ffynhonnell dwbledi, er enghraifft, datblygodd y gair *h₂enk- "troad, plygiad" yn -anc yn y gair brodol crafanc ond hefyd benthyciwyd y gair Lladin angor a'r gair Saesneg ongl sydd ill dau yn dod o'r un bôn.

Ffynonellau golygu

  • Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1931)
  1. Mary Wiliam, Dawn Ymadrodd, t 29, (Gwasg Gomer, 1978)

Llyfryddiaeth golygu