Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol
Mae Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (FRGS) yn Gymrodoriaeth fawreddog a roddir gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (RGS) sy'n agored i'r rhai dros 21 [1][2] oed a all ddangos:
- Ymgysylltiad digonol â daearyddiaeth neu bwnc cysylltiedig trwy gyhoeddiadau, ymchwil neu brofiad proffesiynol.
- O leiaf bum mlynedd o ymrwymiad parhaus i'r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol fel Aelod Cyffredin.
Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer cymrodoriaeth gael eu cynnig a'u heilio gan gymrodor cyfredol oni bai eu bod yn meddu ar swyddi addysgu neu ymchwil mewn addysg uwch. [2]
Mae'r cymrodyr presennol yn cynnwys Michael Palin, Josh Bernstein, a Joanna Lumley. Mae cyn cymrodyr yn cynnwys Ernest Shackleton, E. G. Bowen, Trystan Edwards, George Everest, Alfred Russel Wallace, Richard Charles Mayne a llawer o ymchwilwyr a daearyddwyr nodedig eraill.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Royal Geographical Society (with IBG): the heart of geography". Rgs.org. Cyrchwyd 2016-12-11.
- ↑ "Fellowship". Rgs.org. Cyrchwyd 2016-12-11.