George Everest

Tirfesurydd Cymreig (1790-1866)

Tirfesurydd Cymreig oedd George Everest (4 Gorffennaf 17901 Rhagfyr 1866). Mae'n fwyaf adnabyddus oherwydd i Fynydd Everest gael ei enwi ar ei ôl.

George Everest
Ganwyd4 Gorffennaf 1790 Edit this on Wikidata
Crucywel, Greenwich Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1866 Edit this on Wikidata
Westminster Edit this on Wikidata
Man preswylCrucywel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Academi Milwrol Brenhinol Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, daearyddwr, syrfewr tir, geodesist Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadWilliam Lambton Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Marchog Faglor, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Nghrughywel, Powys. Ymunodd a'r fyddin, ac yn ddiweddarach bu'n brif dirfesurydd India dan yr Ymerodraeth Brydeinig o 1830 hyd 1843. Yn y swydd yma, roedd yn gyfrifol am archwiliad trigonometrig yn ymestyn o dde India hyd ogledd Nepal.

Ym 1865, rhoddwyd yr enw Saesneg Everest gan Andrew Waugh, Uwch-Arolygydd India ar y pryd, ar fynydd oedd wedi ei brofi i fod yn gopa uchaf y byd gan yr arolwg. Enwau hynafol y mynydd yn y Sansgrit yw Devgiri ("Mynydd Sanctaidd") a Devadurga. Chomolungma neu Qomolangma ("Mam y Bydysawd") yw'r enw Tibeteg, a Zhūmùlǎngmǎ Fēng (珠穆朗玛峰 neu 珠穆朗瑪峰) neu Shèngmǔ Fēng (圣母峰 neu 聖母峰) yw'r enw Tsieinëeg perthynol. Yn y Nepaleg fe'i gelwir yn Sagarmatha (सगरमाथा), "Pen yr Awyr".

Yn eironig, roedd Syr George Everest ei hun wedi dysgu Waugh i roi enwau cynhenid neu frodorol i bob endid daearyddol, ond doedd ddim modd i estronwyr teithio i Nepal nac i Tibet ar y pryd, ac ymddengys nad oedd Waugh yn gwybod fod enwau lleol ar y mynydd. Dyma dywedodd Waugh:

I was taught by my respected chief and predecessor, Colonel Sir George Everest to assign to every geographical object its true local or native appellation. But here is a mountain, most probably the highest in the world, without any local name that we can discover, whose native appellation, if it has any, will not very likely be ascertained before we are allowed to penetrate into Nepal. In the meantime the privilege as well as the duty devolves on me to assign…a name whereby it may be known among citizens and geographers and become a household word among civilized nations.