Alfred Russel Wallace
Biolegydd a naturiaethwr o Sais[1] oedd Alfred Russel Wallace (8 Ionawr 1823 – 7 Tachwedd 1913). Cafodd ei eni yn Llanbadog ger Brynbuga, Mynwy, Cymru. Roedd yn naturiaethwr, daearyddwr, anthropolegydd ac yn fiolegydd bydenwog, yn bennaf gan iddo ddatblygu'r cysyniad o esblygiad o flaen, neu ar yr un pryd â Charles Darwin, er mai Darwin a gafodd y clod. Roedd yn Sosialydd ac roedd yn gefnogol i hawliau merched.[2]
Alfred Russel Wallace | |
---|---|
Ganwyd | 8 Ionawr 1823 Brynbuga |
Bu farw | 7 Tachwedd 1913 Broadstone |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, biolegydd, fforiwr, anthropolegydd, swolegydd, naturiaethydd, ymgyrchydd yn erbyn pigiadau, adaregydd, pryfetegwr, daearyddwr, gwenynwr, botanegydd, teithiwr byd, llenor, casglwr swolegol, casglwr botanegol |
Tad | Thomas Vere Wallace |
Mam | Mary Anne Greenell |
Priod | Annie Mitten |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Urdd Teilyngdod, Medal Copley, Medal Brenhinol, Medal y Sefydlydd, Medal Darwin, Medal Darwin–Wallace, Medal Linnean, Cymrawd y Gymdeithas Sŵolegol, Cymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, Cymrawd Cymdeithas y Linnean, Doctor honoris causa of the University of Dublin, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Rhydychen, Honorary Fellow of the Royal Society Te Apārangi |
Gwefan | http://wallacefund.info |
llofnod | |
Dechreuodd ei waith ar Afon Amazon gyda'r naturiaethwr Henry Walter Bates ond cafwyd tân ar fwrdd y llong wrth ddychwelyd a chollodd ei samplau, a'r arian o'u gwerthu. Teithiodd yn ddiweddarach i Archipelago Malay - unwaith eto i gasglu samplau o fywyd gwyllt masnachol. Yno y disgrifiodd yr hyn a elwir, bellach, yn Llinell Wallace sef dosraniad pwysig rhwng Indonesia ac Awstralia. Adnabyddir ef hefyd fel "tad bioddaearyddiaeth".[3][4] Bu farw yn 90 oed.
Bywyd
golyguCafodd ei eni yn Llanbadog, ger Brynbuga, Sir Fynwy i Thomas Vere Wallace a Mary Anne Greenell - y seithfed o naw plentyn. Hanai ei fam o Hertford yn Lloegr a symudodd y teulu yno pan oedd yn bump oed ac aeth i ysgol Hertford Grammar School hyd at 1836.[5] Honnai ei dad ei fod yn wreiddiol o'r Alban ac yn perthyn i William Wallace. Ar un o'r lluniau a dynnodd, ysgrifennodd yn Gymraeg "Merch Gymraeg yn cario dwfr"; a defnyddiodd ei wybodaeth am y Gymraeg yn rhan o'i gysyniadau blaenllaw ar esblygiad. Symudodd i Lundain i weithio fel prentis efo'i frawd John, a oedd yn adeiladwr 19 oed. Codwyd plac iddo yn 1979, yn 44 Ffordd Sant Pedr, Croydon i gofio hyn. Symudodd eildro i weithio fel prentis i'w frawd hynaf William, fel arolygydd tir yn 1837. Mynychodd ddarlithoedd yn y London Mechanics' Institute, sef Prifysgol Birkbeck erbyn hyn, a daeth yn ddarlithydd yno dan ddylanwad y sosialydd Robert Owen a Thomas Paine.
Yn 1839, symudodd i Kington, Sir Henffordd, gan ymsefydlu yng Nghastell Nedd ym Morgannwg a gweithio (hyd at 1843) fel syrfëwr yng Nghymru gan amlaf. Dywed rhai haneswyr fod Wallace yn nodi ei genedligrwydd fel Sais yn hytrach na Chymro, ac mae sylwadau helaeth ganddo fe am y Cymry Cymraeg yn ei hunangofiant "My Life" (Cymry Cymraeg, iddo ef, oedd y werin o gwmpas Castell Nedd cofier). Daeth yn athro yng Nghastell Nedd ac wedyn yng Nghaerlŷr lle treuliodd gryn amser yn llyfrgell y dref; yno hefyd y cyfarfu Henry Walter Bates. Bu farw ei frawd yn 1845, a chymerodd Wallace ofal o fusnes ei frawd, John, ond aeth yr hwch drwy'r siop, a chymerodd swydd fel syrfëwr yn cynllunio rheilffordd drwy Ddyffryn Nedd. Roedd y gwaith hwn yn caniatáu iddo ymwneud â'i brif ddiddordeb, sef casglu pryfed.
"Egwyddor o ymwahaniad" Wallace
golyguDilynodd yn nhraddodiad Alexander von Humboldt, William Henry Edwards a Charles Darwin ym 1848, pan deithiodd Wallace a Henry Bates i Frasil i hel samplau daearyddol ac i werthu a chasglu tystiolaeth am rywiogaethau'n esblygu. Enwodd oddeutu 200 o rywogaethau newydd ar y daith hon. Ymunodd y botanegydd Richard Spruce, a brawd iau Wallace, Herbert, gyda'r daith ym 1849. Astudiodd afon Rio Negro am bedair blynedd a ffawna, fflora a'r brodorion lleol yn Indonesia am 8 mlynedd gan nodi llawer am eu harferion a'u hieithoedd. Dychwelodd ar gwch o'r enw "Helen" ar 12 Gorffennaf 1852 ond bu tân ar fwrdd y llong a suddodd. Ar yr ymweliad hwn ag Indonesia yr esgorodd ar y syniad fod gan rywogaethau un hynafiad cyffredin, er fod y rhywogaeth honno wedi diflannu. Un enghraifft a nododd oedd y Glöyn aden aderyn. Nododd fod rhywogaethau'n perthyn i'w gilydd yn hytrach nag yn cael eu creu gan Dduw a chyhoeddodd bapur The Decent with Modification. Danfonodd y papur i Lundain yn 1855. Disgrifiad o'r broses esblygol oedd y papur hwn mewn gwirionedd.
Er gwaethaf colli ei holl stoc (ar wahân i'w ddyddiadur), ei bapurau a'i arian ysgrifennodd chwech o bapurau academaidd gan gynnwys: On the Monkeys of the Amazon, Palm Trees of the Amazon and Their Uses a Travels on the Amazon.
Erbyn 1858 roedd ei syniadau'n aeddfed ac roedd ganddo dystiolaeth gadarn i brofi ei ddamcaniaethau, ac felly anfonodd hwy at Darwin. Cyhoeddwyd ei bapur helaeth a nodiadau byr 'ar y gweill' gan Darwin mewn cyfarfod arbennig o'r Linnaean Society of London.
Danfonodd bapur arall lle nododd fod esgyrn traed Cornylfinir a'r Si yn union yr un fath ac felly'n perthyn i'r un teulu. Dechreuodd Wallace lythyru gyda Darwin, gan nodi ei ddarganfyddiadau i'r manylyn eithaf. O hyn ymlaen newidiodd syniadau Darwin, gan adlewyrchu darganfyddiadau Wallace.
Treuliodd ddeunaw mis yn Llundain yn byw ar y taliadau yswiriant a dderbyniodd. O 1854 i 1862 (yn 31 - 39 oed), roedd e yn y Malay Archipelago (a adnabyddwn heddiw fel Singapôr, Malaysia ac Indonesia) lle casglodd dros 125,000 o rywiogaethau (dros 80,000 o chwilod).[6] Enwyd Rhacophorus nigropalmatus, fel "Wallace's flying frog" ar ei ôl.
Dychwelodd i Brydain o Malaysia ym 1862, gan aros gyda'i chwaer Fanny Sims, ac anerchodd nifer o'r cymdeithasau gwyddonol lu yn Llundain fel Cymdeithas Swolegol Llundain, a chymdeithasodd gyda Darwin yn Down House, Charles Lyell a Herbert Spencer.
Y blynyddoedd olaf
golyguYm 1866 priododd Annie Mitten a chawsant dri o blant: Herbert (1867–1874), Violet (1869–1945), a William (1871–1951).
Bu farw ar 7 Tachwedd 1913, yn 90 oed. Dywedodd y New York Times mewn coffâd amdano: "the last of the giants belonging to that wonderful group of intellectuals that included, among others, Darwin, Huxley, Spencer, Lyell and Owen, whose daring investigations revolutionized and evolutionized the thought of the century."
Ar 19 Gorffennaf 2017 bu arwerthiant o 24 o lythyrau olaf Wallace gan yr arwerthwr Dominic Winter[7] a'r wythnos ganlynol, gwerthwyd nodiadau ar gyfer llyfr yr oedd Wallace a'i olygydd, Syr James Marchant, yn bwriadu cyhoeddi o'r enw Darwin a Wallace.[8][9] Disgrifiwyd y casgliad hwn yn "facinating"[9] gan y Dr George Beccaloni, cyfarwyddwr Prosiect Llythyrau Alfred Russel Wallace[10].
Galwyd dwy rywogaeth o adar sy'n frodorol o Indonesia ar ei ôl, sef: Rhegen Wallace ac Aderyn paradwys Wallace (Semioptera wallacei), a'r Gwalcheryr Wallace sy'n frodorol o Indonesia, Brwnei, Gwlad Tai, Myanmar a Maleisia.
Gwobrau ac Anrhydeddau
golygu- Urdd Teilyngdod y Gymanwlad (Order of Merit; 1908),
- 'Medal Frenhinol' y Gymdeithas Frenhinol (1868)
- Medal Copley (1908)
- Founder's Medal, y Gymdeithas Ddaearyddol, Frenhinol (Royal Geographical Society) (1892)
- Cymrawd y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (FRGS)
- Medal Aur Linnean (1892), y Linnean Society a Medal Darwin–Wallace Medal (1908).
- Pennaeth Anthropoleg British Association 1866.
- Llywydd yr Entomological Society of London 1870.
- Pennaeth y British Association 1876.
- Pensiwn y Llywodraeth o £200 y flwyddyn o 1881.
- Etholwyd i'r Gymdeithas Frenhinol 1893.
- Canolfan ymchwil yn Sarawak 2005.
- Enwyd Adeilad Bioleg a Daearyddiaeth, Prifysgol Abertawe, ar ei ôl
- Enwyd Theatr Ddarlithio ym Mhrifysgol Caerdydd, ar ei ôl.
Cyhoeddodd 22 llyfr llawn, 747 o weithiau llai a 508 o bapurau gwyddonol.
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- Palm Trees of the Amazon and their Uses (1853)
- The Origin of Human Races and the Antiquity of Man Deduced from the Theory of 'Natural Selection (1864)
- The Malay Archipelago (1869)
- The Geographical Distribution of Animals (1876)
- Tropical Nature, and Other Essays (1878)
- Island Life (1881)
- Darwinism: An Exposition of the Theory of Natural Selection, with Some of Its Applications (1889)
- Travels on the Amazon and Rio Negro (1889)
- My Life (1905)
Y papur gwreiddiol yn llawn. Sylwer 1858 nid 1859. Alfred Russel Wallace, "On the Tendency of Varieties to Depart Indefinitely From the Original Type" Archifwyd 2009-10-20 yn y Peiriant Wayback (1858)
- Cymraeg: R. Elwyn Hughes, Alfred Russel Wallace - Gwyddonydd Anwyddonol (1997).
Papurau Dethol
golygu- On the Monkeys of the Amazon Archifwyd 2009-10-15 yn y Peiriant Wayback, On the Monkeys of the Amazon 1853
- On the Law Which Has Regulated the Introduction of New Species Archifwyd 2007-04-28 yn y Peiriant Wayback, On the Law Which Has Regulated the Introduction of New Species 1855
- On the Tendency of Varieties to Depart Indefinitely From the Original Type Archifwyd 2007-04-29 yn y Peiriant Wayback, On the Tendency of Varieties to Depart Indefinitely From the Original Type 1858 Papur enwog Wallace a anfonwyd i Darwin.
- On the Zoological Geography of the Malay Archipelago Archifwyd 2009-10-14 yn y Peiriant Wayback, On the Zoological Geography of the Malay Archipelago 1859
- Remarks on the Rev. S. Haughton's Paper on the Bee's Cell, And on the Origin of Species Archifwyd 2009-06-30 yn y Peiriant Wayback, Remarks on the Rev. S. Haughton's Paper on the Bee's Cell, And on the Origin of Species 1863
Llyfryddiaeth llawn gan:
- Charles H. Smith at The Alfred Russel Wallace Page Archifwyd 2007-04-05 yn y Peiriant Wayback.
- Roy Davies The Darwin Conspiracy; cyhoeddwyd 2008[11]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wallace, Alfred Russel (1905). My Life: A Record of Events and Opinions. Wellcome Library. London: Chapman & Hall, Ld. t. 34.
I was the only Englishman who had lived some months alone in that country....
- ↑ The Guardian; awdur: Robin McKie 22 Mehefin 2008
- ↑ Smith, Charles H. "Alfred Russel Wallace: Evolution of an Evolutionist Introduction". The Alfred Russel Wallace Page hosted by Western Kentucky University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-18. Cyrchwyd 2007-04-27. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Cofio Darwin Cymru. BBC (7 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Smith, Charles H. "Alfred Russel Wallace: A Capsule Biography". The Alfred Russel Wallace Page hosted by Western Kentucky University. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-04-05. Cyrchwyd 2007-04-27. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help); Italic or bold markup not allowed in:|publisher=
(help) - ↑ Shermer In Darwin's Shadow tud 14.
- ↑ (Saesneg) "Dominic Winter Auctioneers". 2017. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2017.
- ↑ "Gwerthu llythyrau'r Cymro oedd yng nghysgod Charles Darwin". Golwg 360. 19 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2017.
- ↑ 9.0 9.1 (Saesneg) Devlin, Hannah (14Gorffennaf2017). "Tired of medals': new letters reveal how Alfred Russel Wallace shunned Darwin's fame". The Guardian. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2017. Check date values in:
|date=
(help) - ↑ (Saesneg) Beccaloni, George (16 Tachwedd 2010). "The Alfred Russel Wallace Correspondence Project". The Alfred Russel Wallace Correspondence Project. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-09. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2017.
- ↑ Gwefan Evolution News; adalwyd 7 Rhagfyr 2013
- Darwin, y Cymro a'r Cynllwyn; rhaglen gan Telesgop ar gyfer S4C Digidol, 2013.
Dolenni allanol
golygu- The Alfred Russel Wallace Page Archifwyd 2007-04-05 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Alfred Russel Wallace Archifwyd 2010-06-23 yn y Peiriant Wayback
- Jonathan Rosen, "Missing Link: Alfred Russel Wallace, Charles Darwin's Neglected Double", The New Yorker, 12 Chwefror 2007
- The Malay Archipelago illustrated edition at Papua WebProject Archifwyd 2013-06-18 yn y Peiriant Wayback
- Wallace at 100 Welsh Heroes Archifwyd 2010-01-24 yn y Peiriant Wayback
- Gwaith gan Alfred Russel Wallace yn Project Gutenberg
- BBC
- "The Man Who Wasn't Darwin", National Geographic Magazine, Tachwedd 2008
- Alfred Russel Wallace ar Find a Grave
- "The Work In Darwin's Shadow" by Joel Achenbach, The Washington Post, 9 Chwefror 2009