Cymuned hoyw
Defnyddir y term cymuned hoyw – sydd yn aml yn gyfystyr â chymuned LHDT neu gymuned queer – i ddisgrifio pobl hoyw ac/neu LHDT/queer fel grŵp ddemograffig. O fewn y gymuned hon ceir sawl "is-gymuned": y gymuned ledr; y gymuned arth; y gymuned foliog; y gymuned lesbiaidd; y gymuned ddeurywiol; y gymuned drawsryweddol, ac is-gymunedau sy'n gysylltiedig â chroeswisgo a hunaniaethau eraill; y gymuned rave LHDT; ac yn y blaen; gyda phob un ohonynt yn cynrychioli is-ddemograffeg o'r gymuned hoyw ehangach.
Mudiad cymdeithasol yw'r mudiad lesbiaid a hoywon, a gellir priodoli'i ddatblygiad i Derfysgoedd Stonewall ar yr 28 Mehefin 1969 yn Efrog Newydd. Ei ragflaenydd uniongyrchol oedd y mudiad homoffeil yn y 1950au a'r 1960au.
Yn yr un modd ag y mae'r term "hoyw" weithiau'n cael ei ddefnyddio fel rhyw fath o dalfyriad ar gyfer LHDT, mae'r "gymuned hoyw" hefyd yn gyfystyr a'r "gymuned LHDT". Mewn achosion eraill mae'n bosib mae cyfeirio at ddynion hoyw y mae'r siaradwr. Mae rhai pobl (gan gynnwys nifer o newyddiadurwyr Americanaidd blaenllaw) yn ystyried fod yr ymadrodd "y gymuned hoyw" yn golygi "y boblogaeth o bobl LHDT".