Mae'r talfyriad LHDT (Saesneg: LGBT) yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio pobl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsryweddol. Mae'n addasiad o'r talfyriad hŷn LHD. Er ei fod yn dal yn ddadleuol, caiff ei ystyried yn llai dadleuol na queer ac yn fwy cynhwysfawr na chyfunrywiol neu hoyw.

Flag enfys LHDT+

Mae nifer o amrywiaethau yn bodoli. Mae'r rhai mwyaf cyffredin yn ychwanegu Q am queer, C am cwestiynu neu cynghreiriaid, A am anrhywiol neu am arall i gynnwys pob term posib, D arall am Dau-Enaid, Rh am rhyngrywiol, neu H arall am hollrywiol. Un amrywiad mwy cynhwysol ar LHDT sy'n gyffredin yw LHDTQRh+, sef lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsr, queer, rhyngrywiol a mwy, neu LGBTQI+ yn Saesneg.

Ystyr pob term golygu

Mae pob term yn y llythrenw yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at aelodau'r grŵp penodol ac at y gymuned (isddiwylliant) sy'n amgylchynu nhw.

Lesbiaidd golygu

Prif: Lesbiaeth

Yn y cyd-destun hwn, mae lesbiaidd yn cyfeirio at fenywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at fenywod.

Hoyw golygu

Prif: Hoyw

Yn y cyd-destun hwn, mae hoyw yn cyfeirio'n benodol at wrywod gyda chyfeiriadedd rhywiol hollol tuag at wrywod.

Deurywiol golygu

Mae deurywiol yn cyfeirio at bersonau sy'n cael mwy nag un ryw yn atyniadol. Tra'n draddodiadol mae deurywioldeb wedi'i ddiffinio fel atyniad tuag at wrywod a benywod, yn gyffredinol mae'n cynnwys hollrywioldeb, atyniad lle nad yw rhyw'r partner o bwys (h.y. tuag at hunaniaethau gwrywol, benywol, ac unrhyw hunaniaethau eraill). Mae deurywioldeb yn cynnwys unrhywbeth rhwng cyfeiriadeddau rhywiol anrhywioldeb, cyfunrywioldeb, a heterorywioldeb.

Trawsryweddol golygu

Defnyddir trawsryweddol yn gyffredinol fel term mantell ar gyfer amrywiaeth o unigolion, ymddygiadau, a grwpiau wedi'u canolbwyntio o amgylch y gwrthdroad llawn neu rannol o swyddogaethau rhyweddol yn ogystal â therapïau newid rhyw corfforol (gall bod yn hormonaidd neu gynnwys newidiadau llawfeddygol). Diffiniad cyffredin yw pobl sy'n teimlo nad yw'r rhywedd a roddir iddynt (pan ganwyd) yn ddisgrifiad cywir neu lawn ohonynt. Cynhwysir yn y diffiniad hwn nifer o is-gategorïau megis trawsrywiolion, trawswisgwyr ac weithiau pobl ryngryweddol. (Gweler hefyd croeswisgo.)

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: