Terfysgoedd Stonewall
Cyfres o wrthdystiadau treisgar rhwng hoywon a'r heddlu yn Ninas Efrog Newydd oedd Terfysgoedd Stonewall.
Enghraifft o'r canlynol | LGBT+ protest |
---|---|
Rhan o | hanes LHDT |
Dechrau/Sefydlu | 28 Mehefin 1969 |
Dechreuwyd | 28 Mehefin 1969 |
Daeth i ben | 3 Gorffennaf 1969 |
Lleoliad | Stonewall Inn |
Rhanbarth | Efrog Newydd |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sbardun
golyguYn nhymor yr Hydref 1959, dechreuodd heddlu Dinas Efrog Newydd, o dan weinyddiaeth Wagner, gau bariau hoyw'r ddinas. Roedd oddeutu 24 bar ym Manhattan ar ddechrau'r flwyddyn. I raddau helaeth, daeth y mesuriadau llym yma o ganlyniad i ymgyrch parhaus adain-dde a homoffobig colofnydd papur newydd y New York Daily Mirror, Lee Mortimer. Caëwyd bariau hoyw a fodolai eisoes a dim ond am gyfnodau byr y bodolai bariau newydd.
Pan etholwyd John Lindsay ym 1965, dynododd hyn newid mawr yng ngwleidyddiaeth y ddinas, ac wrth i agweddau newid tuag at foesoldeb rhywiol, gwelwyd newid yn awyrgylch gymdeithasol Efrog Newydd.
Ar 21 Ebrill 1966, cynhaliodd Dick Leitsch, Llywydd y Gymdeithas Mattachine Efrog Newydd, ynghyd â dau aelod arall Sip-in ym mar Julius ar Stryd 10fed i'r Gorllewin yn Greenwich Village. Canlyniad hyn oedd bod rheolau lletya'r Awdurdod Alcohol Talaith Efrog Newydd yn erbyn hoywon yn cael eu diddymu yn yr achosion llys a ddilynodd. Roedd rheolau lletya'r Awdurdod Alcohol Talaith Efrog Newydd yn datgan ei fod yn anghyfreithlon i hoywon ymgasglu ac i brynu diodydd mewn bariau. Gwelwyd enghraifft o'r rheol yma'n cael ei gwireddu ym 1940 pan gafodd bar o'r enw Gloria ei gau am dorri'r rheolau hyn. Ceisiodd y bar ymladd yn erbyn y rheol yn y llys, ond collasont yr achos. Cyn y newid yma yn y gyfraith, roedd rhedeg bar hoyw yn golygu llwgrwobrwyo'r heddlu a'r Maffia. Cyn gynted ag y newidiodd y gyfraith, peidiodd yr Awdurdod Alcohol Talaith Efrog Newydd gau bariau hoyw trwyddedig ac ni allai bariau tebyg gael eu dwyn o flaen eu gwell am werthu diodydd i bobl hoyw.
Canlyniad
golyguManteisiodd Mattachine ar hyn yn gyflym iawn gan herio'r Maer Lindsay ar y mater o'r heddlu'n ceisio lithio hoywon mewn bariau hoyw, ac o ganlyniad atalwyd yr arfer o lithiadau'r heddlu. Yn fuan wedi hyn, cyd-weithredodd y maer trwy waredu cwestiynau am gyfunrywioldeb o arferion cyflogi Dinas Efrog Newydd. Gwrthwynebwyd y polisi newydd gan adrannau'r heddlu a'r frigad dân fodd bynnag, gan wrthod cyd-weithio â'r gyfundrefn newydd.
O ganlyniad i'r newidiadau yn y gyfraith, ynghyd ag agweddau agored cymdeithasol a thuag at rywioldeb yn ystod yr 1960au, ffynnodd bywyd hoyw yn Efrog Newydd. Roedd nifer o fariau hoyw trwyddedig yn Greenwich Village a'r Upper West Side, yn ogystal â sawl sefydliad anghyfreithlon, di-drwydded yn gwerthu alcohol, megis y Stonewall Inn a'r Snakepit yn Greenwich Village.
Dechreuodd y noson gyntaf o derfysgoedd ar nos Wener, 17 Mehefin 1969 tua 1.20 y.b. pan herwodd yr heddlu y Stonewall Inn, bar hoyw yn Greenwich Village a gawsai ei redeg heb drwydded swyddogol. Ystyrir Stonewall fel trobwynt y mudiad hawliau hoywon ledled y byd. Prin oedd ymateb y wasg yn y ddinas oherwydd yn ystod y 1960au roedd gorymdeithiau a terfysgoedd enfawr yn gyffredin ac roedd gwrthdystiad Stonewall yn gymharol fechan. Gorymdaith a drefnwyd gan Craig Rodwell (perchennog yr Oscar Wilde Book Shop) i gofio'r achlysur, flwyddyn yn ddiweddarach a roddodd digwyddiadau Stonewall ar y map hanesyddol. Gorymdeithiodd 5,000 o bobl i fyny Sixth Avenue yn Ninas Efrog Newydd gan ddenu sylw'r wasg yn genedlaethol.