Cynaliadwyedd
Y gallu i barhau yw cynaliadwyedd. Yn ecoleg, disgrifia sut mae systemau biolegol yn aros yn amrywiol ac yn gynhyrchiol dros amser. Mae gwlypdiroedd a choedwigoedd iach a hir eu hoes yn enghreifftiau o systemau biolegol cynaliadwy. I fodau dynol, cynaliadwyedd yw'r potensial i gynnal lles tymor hir ym meysydd amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol.
Enghraifft o'r canlynol | type of property, arbenigedd |
---|---|
Math | nodwedd, value |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ecosystemau ac amgylcheddau iach yn darparu nwyddau a gwasanaethau hanfodol i fodau dynol ac organebau eraill. Ceir dwy brif ffordd o leihau effaith negyddol bodau dynol ar yr amgylchedd a gwella gwasanaethau ecosystemau. Y cyntaf yw rheolaeth amgylcheddol; mae'r dull hwn yn seiliedig yn bennaf ar wybodaeth a geir o wyddor daear, gwyddor yr amgylchedd, a bioleg cadwraeth. Yr ail ddull yw rheoli treuliant adnoddau gan fodau dynol, sy'n seiliedig yn bennaf ar wybodaeth economaidd.
Mae cynaliadwyedd yn rhyngwynebu ag economeg trwy ganlyniadau cymdeithasol ac ecolegol gweithgarwch economaidd. Mae economeg gynaliadwyedd yn ymwneud ag economeg ecolegol gan integreiddio elfennau cymdeithasol, diwylliannol, iechyd, ac ariannol. Mae symud tuag at gynaliadwyedd hefyd yn her gymdeithasol sy'n ymwneud â chyfraith genedlaethol a rhyngwladol, cynllunio trefol a chludiant, dulliau o fyw lleol ac unigol, a phrynwriaeth foesegol. Mae ffyrdd cynaliadwy o fyw yn cymryd nifer o ffurfiau gan gynnwys ad-drefnu amodau byw (e.e. ecobentrefi, ecofwrdeistrefi a dinasoedd cynaliadwy), ail-werthuso sectorau economaidd (permaddiwylliant, adeiladu'n wyrdd, amaethyddiaeth gynaliadwy) neu arferion gwaith (pensaernïaeth gynaliadwy), defnyddio gwyddoniaeth er mwyn datblygu technolegau newydd (technolegau gwyrdd, ynni adnewyddadwy), a newidiadau mewn bywydau unigol sy'n cynilo adnoddau naturiol.