Cynan Jones
Awdur o Gymru yw Cynan Jones (ganed 1975). Fe'i magwyd ger Aberaeron, Ceredigion, ac mae'n byw ac yn gweithio yng Ngheredigion.[1] Cyhoeddodd Jones ei nofel gyntaf, The Long Dry, yn 2006. Yn ddiweddarach, cyhoeddodd tair nofel rhwng 2011 a 2014. Mae ei waith wedi ei gyfieithu i ieithoedd eraill, ac mae ei straeon byrion wedi ymddangos mewn nifer o gasgliadau a chyhoeddiadau fel Granta a New Welsh Review. Darlledwyd ei stori A Glass of Cold Water ar BBC Radio 4 ym mis Mai 2014.[1][2]
Cynan Jones | |
---|---|
Ganwyd | 27 Chwefror 1975 Aberaeron |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd |
Gwefan | https://www.cynanjones.com |
Yn 2016, trodd ei law at sgriptio teledu gan ysgrifennu yr ail bennod yn nhrydedd cyfres Y Gwyll. Ym mis Hydref 2016, fe'i benodwyd yn Gymrawd Ysgrifennydd y Gronfa Lenyddol Frenhinol ym Mhrifysgol Aberystwyth.[3]
Gwobrau
golyguDyfarnwyd gwobr Betty Trask i'w nofel gyntaf The Long Dry yn 2007.[4] Yn 2008, fe'i dewiswyd ar gyfer prosiect Scritture Giovani yng Ngŵyl y Gelli. Cafodd pennod o Y Dig, a gyhoeddwyd gyntaf yn Granta Magazine, ei ddewis ar gyfer rhestr fer gwobr Sunday Times EFG Private Bank Short Story yn 2013.[5] Enillodd ei nofel The Dig, wobr Jerwood Fiction Uncovered yn 2014 a daeth i'r brig yng Ngwobr Ffuglen Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru yn 2015. Roedd y nofel hefyd ar restr hir Gwobr Kirkus 2014 yn yr Unol Daleithiau ac y Warwick Prize for Writing 2014.
Arddull ysgrifennu
golyguMewn cyfweliad gyda Cynan Jones am The Dig, mae'r awdur yn sôn am "sbarduno adweithiau [yn y darllenydd], heb fod yn rhy syfrdanol."[6] Eglurodd hefyd ei ddefnydd o iaith fwy barddonol ar gyfer rhai cymeriadau er mwyn eu cadw nhw ar wahân neu yn "adlewyrchu" agwedd o'u cymeriad. Wrth ddefnyddio "alegorïau ffisegol a naturiol" i ddweud pethau am bobl, dylai'r darllenydd "ddeall y cyfeiriad yn reddfol."[6] Mae'n crybwyll ysgrifennu fel "Steinbeck, er enghraifft, gyda The Long Dry".[6]
Mewn cyfweliad arall, mae Jones yn mynd i'r afael yn y syniad bod yno yn "alegori naturiol yng nghraidd [ei lyfrau] sydd yn wirioneddol dweud wrth rywun am y sefyllfa ddynol".[7] Mae'n dweud am "ymddiried yn y darllenwyr" fel y gallwch wneud neu ddweud pethau a fydd yn "denu llygad y darllenydd" ac nid oes rhaid "adeiladu naratif" sydd yn debycach i "ysgrifennu drwy rifau".[7] Pan ofynnwyd iddo am "y trais a'r gorfelys" mae llawer o lenyddiaeth yn osgoi, dywed Jones ei fod yn ymddiried yn y darllenydd i gael dealltwriaeth o natur "cynhenid" sefyllfa a'r oll sydd rhaid iddo wneud yw "ei ysgrifennu i lawr mor glir ag y gallaf, a heb farn", yn fwy fel tyst na voyeur.[8]
Yn 2014, cafodd Jones sylw am beidio atalnodi rhan fwyaf o'r testun llafar yn ei nofel The Dig (ac ychydig o straeon byrion arall). Roedd lleferydd a syniadau ei gymeriadau wedi defnyddio dyfynodau nes i John Freeman, golygydd y cylchgrawn Granta, gymryd cyfle a dileu'r dyfynodau er mwyn bod "yn fwy uniongyrchol, fwy gyda hi". Cytunodd yr awdur am effaith y ddyfais anghonfensiynol hon a gorffennodd gweddill y llyfr yn y dull yma, ac eithrio un sgwrs rhwng y prif gymeriad a'i fam. Yn y darn hynny, defnyddiodd Jones ddyfynodau arferol "i greu ymdeimlad o ddeialog mwy confensiynol, digyffro." Roedd awduron fel Cormac McCarthy, James Joyce, a Samuel Beckett wedi arbrofi gyda'r un dull o hepgor atalnodi. Drwy wneud hyn, aeth Jones yn erbyn confensiwn sydd wedi bod yn arferol ers o leiaf ddiwedd y 18g.[9]
Llyfryddiaeth
golygu- The Long Dry. Parthian Books. 2006, ailgyhoeddwyd gan Granta yn 2014. ISBN 1783780401
- Out on the Water (heb ei gyhoeddi yn Saesneg). Yn Eidaleg, Le Cose Che Non Vogliamo Più (Pethau Nad Ydym Eisiau Bellach). 2010.
- Everything I Found on the Beach. Parthian Books. 2011, ailgyhoeddwyd gan Granta yn 2014. ISBN 1783780428
- Bird, Blood, Snow. Seren Books. 2012. ISBN 1854115898
- The Dig. Granta Books. 2014. Coffee House Press US, 2015. ISBN 1847088805
- Cove. Granta Books. Hydref 2016.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Cynan Jones - About. Cynan jones. Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2016.
- ↑ "A Glass of Cold Water" (yn Saesneg).
- ↑ Awdur o Geredigion yw Cymrawd Ysgrifennu newydd y Brifysgol (19 Hydref 2016). Adalwyd ar 15 Rhagfyr 2016.
- ↑ "Betty Trask Past Winners - Society of Authors - Protecting the rights and furthering the interests of authors" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-22. Cyrchwyd 2016-12-15.
- ↑ "The Sunday Times EFG Short Story Award 2013" (yn Saesneg).
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "An Interview with Cynan Jones - Wales Arts Review". Wales Arts Review (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-02-08.
- ↑ 7.0 7.1 Carroll, Tobias. ""Instinct and Keeping a Clear Eye": An Interview With Cynan Jones, Part 2". Vol. 1 Brooklyn. Cyrchwyd 2016-02-08.
- ↑ "Cynan Jones" (yn Saesneg).
- ↑ Lea, Richard. "Don't be scared: dialogue without quotation marks". Guardian News and Media. More than one of
|last1=
a|last=
specified (help); More than one of|first1=
a|first=
specified (help)