Y Gwyll
Rhaglen deledu dditectif wedi'i lleoli yng Ngheredigion, ac yn Aberystwyth yn bennaf, yw Y Gwyll. Darlledwyd y gyfres am y tro cyntaf ar S4C yn Hydref 2013.
Y Gwyll | |
---|---|
Adnabuwyd hefyd fel | Hinterland |
Genre | Drama |
Serennu | Richard Harrington Mali Harries Alex Harries Hannah Daniel Aneirin Hughes |
Cyfansoddwr/wyr | John E.R. Hardy |
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg Saesneg |
Nifer cyfresi | 3 |
Nifer penodau | 13 (Rhestr Penodau) |
Cynhyrchiad | |
Cynhyrchydd gweithredol |
Ed Thomas |
Cynhyrchydd | Gethin Scourfield Ed Talfan |
Golygydd | Mali Evans |
Lleoliad(au) | Aberystwyth, Cymru |
Amser rhedeg | 60 munud i bob rhan, yn cynnwys hysbysebion (S4C) |
Cwmnïau cynhyrchu |
Fiction Factory |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | S4C |
Fformat llun | 1080i (16:9 HDTV) |
Darllediad gwreiddiol | 29 Hydref 2013 – 18 Rhagfyr 2016 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol | |
Proffil IMDb |
Yr actor Cymreig Richard Harrington sydd yn chwarae rôl y prif gymeriad, DCI Tom Mathias.
Plot
golyguGallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Cynhyrchiad
golyguCrëwyd y gyfres gan y dramodydd Ed Thomas, cyfarwyddwr creadigol y cwmni ffilm Fiction Factory a leolir yng Nghaerdydd,[1] ac Ed Talfan.[2] Mathias oedd enw gwreiddiol y gyfres Gymraeg a Hinterland yr enw Saesneg,[3] ond newidiwyd yr enw Cymraeg i Y Gwyll ym mis Ebrill 2013.[4] Datganwyd yn Rhagfyr 2012 y bydd rhai o actorion mwyaf adnabyddus Cymru yn ymddangos yn ystod y gyfres, gan gynnwys Siân Phillips, Matthew Rhys, Ioan Gruffudd a Rhys Ifans.[3]
Cynhyrchiad yw Y Gwyll gan Fiction Factory mewn cydweithrediad â S4C, Tinopolis, BBC Cymru Wales, Cronfa Gyd-gynhyrchu S4C ac All3Media International Ltd.[5] Costiodd £4.2 miliwn i gynhyrchu'r gyfres, a chymerodd ddwy flynedd a hanner i godi'r swm hwnnw.[1] Derbyniodd y cynhyrchwyr £215,000 gan Lywodraeth Cymru fel cyllid busnes y bydd rhaid ei ad-dalu.[3] Cafodd y gyfres ei ffilmio'n gyfan gwbl yng Ngheredigion, ac yn ddwywaith: yn Gymraeg ac yn Saesneg. Bu rhai o fyfyrwyr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth yn cael profiad gwaith yn ystod cynhyrchu'r gyfres.[5] Tra'n ffilmio bu'r actorion yn treulio amser gyda ditectifs lleol, gan gynnwys rhai a weithiodd ar achos April Jones.[1] Cafodd ei ffilmio tan fis Mai 2013, a bu'r gwaith ôl-gynhyrchu yn digwydd yng Nghaerdydd.[3] Penderfynwyd i ddefnyddio'r enw Cymraeg a'r enw Saesneg (Y Gwyll/Hinterland) wrth frandio'r gyfres.[4] Yn ôl Ed Thomas y prif reswm dros y penderfyniad i greu rhaglen "gefn-wrth-gefn" Cymraeg a Saesneg oedd er mwyn denu buddsoddiad ychwanegol at y gyllideb gan S4C, ond ym mis Medi 2013 dywedodd mi fyddai'n "fwy ffyddiog [...] yn fwy optimistig y gallen ni ddosbarthu stwff nawr yn Gymraeg ar ôl bod trwy’r profiad hyn, achos mae gymaint o bobl wedi dangos cyn gymaint o ddiddordeb ynddo fe".[6]
Ar ddiwedd darllediad y gyfres gyntaf ar S4C fe gyhoeddwyd bod gwaith wedi dechrau ar ail gyfres i'w darlledu mewn blwyddyn.[7]. Cyhoeddodd S4C a BBC Cymru fod ail gyfres wedi ei chomisiynu yn Ebrill 2014.[8] Darlledwyd un pennod arbennig ar Ddydd Calan 2015 a fe gychwynodd yr ail gyfres ym mis Medi 2015.[9] Dechreuwyd ffilmio trydydd cyfres yn Ionawr 2016 a fe'i ddangoswyd ar S4C ar ddiwedd Hydref 2016.
- Richard Harrington – DCI Tom Mathias
- Mali Harries – DI Mared Rhys
- Alex Harries – DC Lloyd Elis
- Hannah Daniel – DS Siân Owen
- Aneirin Hughes – Prif Arolygydd Brian Prosser
- Anamaria Marinca - Meg Mathias
Darllediad
golyguDangoswyd clipiau o'r rhaglen yn gyhoeddus am y tro cyntaf ym mhabell S4C yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013, mewn sesiwn gyda'r prif actorion Richard Harrington a Mali Harries, â'r uwch gynhyrchydd Ed Thomas.[11][12] Cafodd ei dangos hefyd yng nghynhadledd MIPCOM yn Cannes ar 8 Hydref 2013.[13] Dangoswyd première y bennod gyntaf ar 17 Hydref 2013 yn yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth.[5] Darlledwyd y bennod gyntaf ar S4C nos Fawrth 29 Hydref 2013.
Darlledwyd y gyfres yn Saesneg ar BBC Cymru Wales a BBC Four yn 2014, yn ogystal â'r darlledwr DR yn Nenmarc, drwy gytundeb gydag All3Media International.[5][12] Cred DR y bydd tirlun Cymru yn apelio at wylwyr Danaidd .[3] Y fersiwn Saesneg fydd yn cael ei ddarlledu yn Nenmarc.[14]
Darlledwyd yr ail gyfres ar S4C ar ddechrau mis Medi 2015 a'r drydedd gyfres ar ddiwedd Hydref 2016.
Derbyniad
golyguY gyfres gyntaf
golyguGwyliodd 116,000 o bobl y penodau cyntaf ar S4C, gan gynnwys 32,000 o wylwyr teledu y tu allan i Gymru a thros 10,000 a wyliodd ar y gwasanaeth ar-lein Clic. Nid yw'r niferoedd hyn yn cynnwys y rhai a wyliodd yn fyw ar wefan S4C na'r rhai a ddefnyddiodd y gwasanaeth TVCatchup. Bu nifer o wylwyr yn trafod y rhaglen ar y wefan Twitter gyda'r tag stwnsh "#ygwyll", ac hwn oedd ail bwnc trafod mwyaf poblogaidd Twitter ar draws y Deyrnas Unedig ar noson ddarlledu'r bennod gyntaf.[15] Cynigwyd early day motion yn Nhŷ'r Cyffredin i groesawu'r gyfres, gyda 14 o Aelodau Seneddol yn cefnogi'r cynnig.[16]
Roedd ymateb y beirniaid i'r gyfres gyntaf yn ffafriol. Derbynodd Harrington yn arbennig glod am ei berfformiad.[17] Canai clodydd y rhaglen yn adolygiad yr awdur Lyn Ebenezer yn Y Cymro: "stori afaelgar, actio gwirioneddol ddarbwyllol a gwaith cyfarwyddo cofiadwy [...] Deg allan o ddeg i Fiction Factory ͏– ac i S4C am fentro." Dyfarnwyd taw "eneiniedig" oedd dewis Harrington yn y rhan arweiniol, a bod yr actor yn ei atgoffa o Philip Madoc, a chwaraeodd y prif gymeriad yn y ffilm Noson yr Heliwr a gafodd ei chyd-sgriptio gan Ebenezer. Cymeradwyodd hefyd perfformiadau Philip Hughes a Sara Lloyd-Gregory.[18] Cymeradwyodd nifer o feirniaid y defnydd o'r tirlun i ffurfio naws noir y rhaglen.[19] Yn ôl Nico Dafydd ym mhlog celfyddydau Golwg360, "nid darlunio’r gorffennol sydd yma ond deall esthetig y Gymru fodern fel y mae, gan ychwanegu ysgrifennu crefftus i greu stori. Wedi ei leoli yn Aberystwyth, mae’n falch o’r adeiladau, o’r bryniau, y golygfeydd, ac yn eu clymu’n rhan o’r stori."[14] Yn y Wales Arts Review ysgrifennodd Gary Raymond bod Y Gwyll yn llawn ystrydebau'r rhaglen dditectif nodweddiadol, ond ei bod yn llwyddiannus ar y cyfan wrth ymdrin â'r ystrydebau hyn mewn ffordd effeithiol.[20]
Cafwyd llawer o gymharu Y Gwyll â chyfresi "noir Nordig",[20] gan gynnwys y rhaglen Ddanaidd Forbrydelsen (a ddarlledwyd ym Mhrydain dan yr enw The Killing),[17][21][22] a'r gyfres Swedaidd Wallander.[1][23] Cafodd y gyfres Gymraeg hefyd adolygiadau ffafriol gan argrafflenni Llundain.[24] Ar y rhaglen Pethe, dangoswyd y fersiynau Cymraeg (gydag isdeitlau) a Saesneg gerbron tri o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth – Cymro, Sais, a Norwyes – a'r Gymraeg oedd y ffefryn gan y tri ohonynt. Sylwodd Dylan Wyn Williams, beirniad teledu Golwg bod "clywed y ddeialog Gymraeg yn cynnig elfen ychwanegol egsotig bron mewn byd sy'n gyforiog o dditectifs drama. Gwers fach bwysig i S4C ganolbwyntio ar greu fersiwn uniaith yn y dyfodol efallai."[25] Roedd panel y rhaglen Pethe – Gary Slaymaker, Elin Haf Gruffydd Jones, a Keith Morris – hefyd yn gytûn taw peth gwych oedd y gyfres newydd.[26] Efallai'r unig anghydffurfiwr oedd yr awdur nofelau ditectif Alun Cob yng nghylchgrawn Golwg, a roddai sgôr hanner cystal dyfarniad Lyn Ebenezer: "yn anffodus: pump allan o ddeg". Beirniadodd realedd y gyfres am ei bod yn gwbl Gymraeg: "Diflas, anonest, a diwylliannol anaeddfed ydi mynnu bod sefyllfa'r iaith mor iach ag y mae hi'n cael ei phortreadu yn Y Gwyll." Ar ben hynny, fe bigodd bai ar stori'r bennod gyntaf, "gwbl anhygoel ac ar yr un amser cwbl ystrydebol".[27]
Penodau
golyguCyfres 1 (2013)
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[28] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Marc Evans | David Joss Buckley & Ed Thomas | 29 Hydref 2013 31 Hydref 2013 | 81,000 58,000 |
Wrth ymchwilio i ddiflaniad menyw grefyddol 64 mlwydd oed o’r enw Helen Jenkins, mae DCI Mathias yn ein tywys i waelodion ceunant dwfn ym Mhontarfynach, ac yn dadguddio hanes creulon hen gartref plant. | |||||
2 | "Pennod 2" | Gareth Bryn | Ed Talfan | 5 Tachwedd 2013 7 Tachwedd 2013 | 66,000 57,000 |
Mewn ffermdy anghysbell mae Idris Williams, gŵr lleol 69 oed, wedi cael ei guro i farwolaeth. Wrth ymchwilio i’r ymosodiad mae cyfrinachau gwaedlyd y mynydd yn dod i’r wyneb. | |||||
3 | "Pennod 3" | Rhys Powys | David Joss Buckley & Ed Thomas | 12 Tachwedd 2013 14 Tachwedd 2013 | 72,000 66,000 |
Ym mhentref tawel Penwyllt, mae corff gŵr ifanc yn cael ei ddarganfod yn nyfroedd oer llyn y chwarel. Ond pwy yw e, ac ai damwain oedd hyn? | |||||
4 | "Pennod 4" | Ed Thomas | Jeff Murphy | 19 Tachwedd 2013 21 Tachwedd 2013 | 64,000 49,000 |
Yng nghanol cors anghysbell mae corff merch ifanc wedi ei osod yn ofalus ac yn dyner. Mae’r drosedd yma, ym mhennod ola’r gyfres, yn gwthio DCI Mathias yn agos at y dibyn, yn bersonol ac yn ei yrfa broffesiynol. |
Cyfres 2 (2015)
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[28] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Gareth Bryn | Debbie Moon (addasiad Caryl Lewis) | 13 Medi 2015 20 Medi 2015 | 54,000 55,000 |
Wrth i'r gyfres newydd ddechrau, mae Mathias dan bwysau. Mae ei wraig Meg wedi dod i Aberystwyth ac mae e'n cael ei archwilio gan yr IPCC yn dilyn marwolaeth Mari Davies ar ddiwedd y bennod ddiwethaf. Pan mae corff gyrrwr bws wedi'i saethu yn cael ei ddarganfod ar ochr mynydd, mae archwilio i'r achos yn cynnig ychydig o ryddhad. | |||||
2 | "Pennod 2" | Julian Jones | Eoin McNamee (addasiad Caryl Lewis) | 27 Medi 2015 4 Hydref 2015 | 45,000 42,000 |
Mae llofruddiaeth bargyfreithiwr ac un o hoelion wyth y gymdeithas, yn datgelu stori drasig o gariad a cholli. | |||||
3 | "Pennod 3" | Ed Thomas | Sue Everett (addasiad Caryl Lewis) | 11 Hydref 2015 18 Hydref 2015 | 37,000 46,000 |
Mae darganfod corff mewn llyn yn arwain Mathias a'r tîm i ymchwilio i fywyd personol athrawes ysgol gynradd. | |||||
4 | "Pennod 4" | Ed Thomas | Mark Andrew (addasiad Caryl Lewis) | 25 Hydref 2015 1 Tachwedd 2015 | 31,000 39,000 |
Mae darganfod corff wedi ei losgi ar y twyni tywod yn tynnu'r tîm i ganol hen elyniaeth deuluol gyda chysylltiad ag achos o lofruddiaeth mam ifanc dros 13 mlynedd ynghynt. Mae Mathias yn bendant bod yr ateb ynghlwm â llofruddiaeth y ferch ond nid yw Prosser yn gefnogol iawn o ymdrechion Mathias i gloddio i'r gorffennol. |
Cyfres 3 (2016)
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[28] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod 1" | Gareth Bryn | Debbie Moon (addasiad Caryl Lewis) | 30 Hydref 2016 /6 Tachwedd 2016 | 71,000 66,000 |
Mae Mathias yn ol wrth i weinidog lleol gael ei ladd mewn cymuned bellennig yn y mynyddoedd. Wrth i'r ymchwiliad gyrraedd uchafbwynt, rhaid i'r Uwch Arolygydd Prosser wynebu hen elyn. | |||||
2 | "Pennod 2" | Ed Thomas | Cynan Jones | 13 Tachwedd 2016 20 Tachwedd 2016 | 69,000 79,000 |
Pan mae corff y curadur Laura Dean yn cael ei ddarganfod mewn bedd bas mewn coedwig bellennig, mae Mathias a'i dîm yn dechrau ymchwilio i gefndir y fenyw ifanc gan ddod o hyd i gyfrinachau ysgytwol. Yn y cyfamser, gyda byd Prosser yn dal i droi yn dilyn marwolaeth Iwan Thomas, mae'n holi am gymorth gan yr Uwch Arolygydd Robert Owen, sydd bellach wedi ymddeol. Daw DCI Mathias dan y lach pan mae corff Iwan Thomas yn cael ei ddarganfod. Aiff pethau'n waeth pan mae'r ymchwiliwr annibynnol John Powell yn cael ei benodi er mwyn ymchwilio i'r farwolaeth ac yn gwahodd DS Owens i'w gynorthwyo. Wrth i'r tensiwn godi, mae DCI Mathias a DI Rhys yn trio datrys y dirgelwch sy'n gysylltiedig â llofruddiaeth y fenyw leol, Laura Dean. | |||||
3 | "Pennod 3" | Gareth Bryn | Jeff Murphy (addasiad Caryl Lewis) | 27 Tachwedd 2016 4 Rhagfyr 2016 | 54,000 53,000 |
Ar ôl i rywun gael ei saethu'n farw mewn gorsaf betrol ddiarffordd, mae dyn lleol o'r enw Llew Morris dan amheuaeth. Wedi gwahanu o'i wraig yn ddiweddar, mae bywyd Llew wedi cael ei droi ben i waered. Yn benderfynol o ddod o hyd i'r llofrudd, mae DCI Mathias a DI Rhys yn ymweld â'r ty lle cafodd Llew ei fagu ac yn gwneud darganfyddiad erchyll. Gyda thair marwolaeth i'w hymchwilio, mae'r tensiwn yn codi eto pan ddaw'r newyddion bod mab ifanc Llew wedi cael ei herwgipio o'r ysgol leol. Yn awyddus i ddod o hyd i'r bachgen coll, mae DCI Mathias yn torri'r protocol ac yn cychwyn am y mynydded ar ei ben ei hun. Gyda'r cloc yn tician, mae Mathias yn peryglu ei fywyd ei hun. Ond sut y bydd ei dîm yn ymateb a beth fydd yr Uwch Arolygydd Prosser yn ei feddwl o'i ymddygiad? Yn y cyfamser, mae'r cyn Uwch Arolygydd Robert Owen yn rhoi pwysau ar yr ymchwiliwr annibynnol John Powell i gau achos Iwan Thomas. | |||||
4 | "Pennod 4" | Ed Thomas | Mark Andrew (addasiad Caryl Lewis) | 11 Rhagfyr 2016 18 Rhagfyr 2016 | 81,000 40,000 |
Mae DCI Mathias yn ymchwilio i farwolaeth Catrin John, oedd yn arfer byw yng Nghartref Plant Pontarfynach ac a gafodd ei ffeindio'n euog o ladd. Wrth i Mathias a Mared ymchwilio i farwolaeth Catrin, maen nhw'n dechrau amau ei bod yn gysylltiedig â marwolaeth y cyn heddwas Iwan Thomas. Wrth i Mathias dwrio'n bellach i'r gorffennol, mae'r pwysau i gau'r achos yn codi. A fydd Mathias yn dilyn y drefn neu a fydd e'n peryglu popeth er mwyn dod o hyd i'r gwirionedd? Mae'r gwir am gartref plant Pontarfynach ar fin cael ei ddatgelu gan Mathias a Mared ond mae mwy nag un person yn ceisio sefyll yn y ffordd. A fydd y ffeithiau erchyll am Dr Hugh Vaughan a'r lleill yn gweld golau dydd o'r diwedd neu a fydd y gwirionedd yn cael ei guddio am byth ym mherfeddion Pontarfynach? |
Penodau Arbennig
golygu# | Teitl | Cyfarwyddwr | Awduron | Darlledwyd (S4C) | Gwylwyr (S4C)[28] |
---|---|---|---|---|---|
1 | "Pennod Dydd Calan" | Ed Thomas | Jeff Murphy (cyfieithiad Caryl Lewis) | 1 Ionawr 2015 | 86,000 |
Wrth fynd i'r afael ag achos o dân mewn cartref teuluol caiff Mathias ei dynnu i galon cymuned sydd wedi ei rhwygo'n ddarnau gan hen elyniaethu, trachwant a chenfigen. Stori am dor-calon a cholled, ond a fydd yn cynnig dechrau newydd i DCI Tom Mathias? |
Darlledwyr rhyngwladol
golyguSianeli teledu
golygu- Gwlad Belg: Cychwynodd y corff darlledu cyhoeddus Fflemaidd VRT ddangos y fersiwn Cymraeg yn cychwyn 14 Gorffennaf 2014.[29]
- Denmarc: Dangosodd y darlledwr DR y fersiwn dwyieithog, o dan y teitl "Mord i Wales", ar 12, 19 a 26 Mai a 2 Mehefin 2014.
- Y Ffindir: Dangosodd YLE y fersiwn dwyieithog, o dan y teitl "Syrjäinen maa", yn cychwyn 12 Hydref 2014.[30]
- Yr Almaen: Dangoswyd fersiwn wedi ei ddybio i Almaeneg. gyda'r teitl Inspector Mathias – Mord in Wales, ar deledu Almaenaidd Das Erste yn cychwyn 12 Gorffennaf 2015.[31]
- Norwy: Dangosodd NRK y fersiwn dwyieithog yn cychwyn 11 Ebrill 2014.
- Gwlad Pwyl: Dangosodd Ale Kino+ y gyfres cyntaf yn ei fersiwn dwyieithog, gyda'r teitl Hinterland, ar 5, 12, 19 a 26 Tachwedd 2014.[32]
- Slofenia: Dangoswyd y fersiwn dwyieithog ar ei darlledwr cyhoeddus RTVSLO, yn cychwyn 14 Ebrill 2014, o dan y teitl "Zločini v Walesu" (Troseddau yng Nghymru). Parhaodd y gyfres gyntaf ar 21, 28 Ebrill a 5 Mai. Ail-ddarlledwyd y gyfres cyntaf y flwyddyn ganlynol yn Ebrill a Mai.[33]
- Yr Iseldiroedd: Dangoswyd y fersiwn dwyieithog ar KRO yn cychwyn 20 Mai 2014.
- Y Deyrnas Unedig: Darlledwyd y fersiwn dwyieithog ar BBC Four yn 2014, yn cychwyn ar 28 Ebrill.[34]
- Ffrainc: Mae ar gael ar Netflix gyda fersiwn Ffrengig a dangoswyd fersiwn Llydewig (Serr-Noz) ar sianeli lleol, Tébéo, Tébésud et TVR, gyda isdeitlau Ffrangeg
Netflix
golyguMae gwasanaeth fideo ar alw Netflix yn cynnwys fersiwn Saesneg y gyfres Hinterland sydd ar gael ar draws Japan, Gogledd America a De America. Mae'r fersiwn sydd ar Netflix yn wahanol i'r rhai a ddarlledwyd ar y BBC ac yn yr iaith Saesneg.[35]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Hinterland – the TV noir so good they made it twice. The Guardian (30 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) Y Gwyll/Hinterland. buzz (31 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 Hwb ariannol drama deledu. BBC (24 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 4.0 4.1 Enw cyfres dditectif Gymraeg yn cael ei ddatgelu – Y Gwyll. S4C (25 Ebrill 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 Première Y Gwyll / Hinterland. Prifysgol Aberystwyth (17 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Hyder yng ngwyll y Gymraeg. Golwg360 (20 Medi 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Mwy o'r Gwyll ar y gweill – S4C yn cyhoeddi bod rhagor i ddod. S4C (21 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 25 Tachwedd 2013.
- ↑ Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd. S4C (4 Ebrill 2013). Adalwyd ar 4 Ebrill 2013.
- ↑ press level2.shtml?id=2715|Y Gwyll yn dychwelyd ar S4C, Adalwyd ar 13 Medi 2015
- ↑ Cymeriadau Y Gwyll. S4C. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Y Gwyll yn dod i’r Eisteddfod. Golwg360 (8 Awst 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 12.0 12.1 Cyfle cyntaf i weld Y Gwyll Hinterland. S4C (8 Awst 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) "HINTERLAND (Y GWYLL)" SCREENING (8 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 14.0 14.1 Y Gwyll: darlun o Gymru?. Golwg360 (11 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Y Gwyll: Yn fwy na 110,000 o wylwyr. BBC (8 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) Early day motion 633: Y GWYLL/HINTERLAND (28 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 17.0 17.1 Y Gwyll – 9/10 medd myfyriwr. Golwg360 (8 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Lyn Ebenezer. "Yn y gwyll yn ymgolli", Y Cymro (8 Tachwed 2013), t. 9.
- ↑ Y Gwyll yn dal y dychymyg. BBC (30 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ 20.0 20.1 (Saesneg) Gary Raymond. Y Gwyll/Hinterland. Wales Arts Review. Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) Bafta Cymru Best Actress Sara Lloyd-Gregory on being a writer's muse. WalesOnline (26 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013. "A fan of Scandinavian drama, Sara says it was great to have the opportunity to be involved with the Welsh take on the fashionable genre"
- ↑ (Saesneg) Y Gwyll/Hinterland review: Subtitles never did The Killing any harm. WalesOnline (29 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ Y Gwyll – beth oedd eich barn chi?. Golwg360 (30 Hydref 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013.
- ↑ (Saesneg) Welsh noir drama Y Gwyll / Hinterland proves a hit across the border for S4C. WalesOnline (7 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 11 Tachwedd 2013. "The S4C crime thriller finally aired for the first time on October 29 and has subsequently enjoyed favourable reviews from the English broadsheet press. [...] The Guardian newspaper described it as "Wales' impressive addition to the subtitled homicide genre." It added: "Fans of washed-out noir slaughter are going to love this for its slow, confident pacing, attention to detail and Harrington’s engrossing performance.""
- ↑ Dylan Wyn Williams. "Ar y bocs – Nefoedd yr adar", Golwg (7 Tachwedd 2013), t. 25.
- ↑ Pethe - Adolygiad 'Y Gwyll' ar wefan You Tube (1 Tachwedd 2013). Adalwyd ar 27 Ebrill 2017.
- ↑ Alun Cob. "Colli cyfle i greu ffilm ddwyieithog", Golwg (7 Tachwedd 2013), t. 10–11.
- ↑ 28.0 28.1 28.2 28.3 Ffigyrau gan S4C. Gweler Ffigurau Gwylio S4C.
- ↑ "Hinterland (Welsh)". Vlaamse Radio- en Televisie. Cyrchwyd 15 Gorffennaf 2014.[dolen farw]
- ↑ "Syrjäinen maa". Cyrchwyd 20 Hydref 2014.
- ↑ "Inspector Mathias – ARD / Das Erste". ARD. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2015.
- ↑ "HINTERLAND W ALE KINO+". www.alekinoplus.pl. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-29. Cyrchwyd 2016-03-19.
- ↑ "Napovednik". MMC RTV Slovenija. 5 Mai 2014. Cyrchwyd 27 Ebrill 2015.
- ↑ "Welsh acquisition Hinterland comes to BBC Four". BBC Media Centre. 16 Ebrill 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-12. Cyrchwyd 16 Ebrill 2014.
- ↑ "Welsh drama Hinterland picked up for Netflix streaming". Wales Online. 15 Ebrill 2014. Cyrchwyd 16 Ebrill 2014.
Dolenni allanol
golygu- Y Gwyll Archifwyd 2013-11-01 yn y Peiriant Wayback ar wefan S4C
- (Saesneg) Y Gwyll ar wefan Internet Movie Database