Cynghrair Caernarfon a'r Cylch

Cynghrair bêl-droed yng ngogledd orllewin Cymru oedd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch. Fe'i ffurfiwyd o dan yr enw presennol ym 1950 ond yn dilyn Cyfarfod Cyffredinol y Gynghrair yn 2014 cyhoeddwyd y byddai'r Gynghrair yn dod i ben am gyfnod amhenodol oherwydd diffyg clybiau[1].

Roedd Cynghrair Caernarfon a'r Cylch yn gyfystur â chweched lefel pyramid bêl-droed Cymru ac, ynghŷd â Chynghrair Ynys Môn, yn bwydo Cynghrair Gwynedd.

Hanes golygu

Ffurfiwyd Cynghrair Bangor a'r Cylch ym 1930 ar gyfer clybiau pêl-droed o ogledd Sir Gaernarfon gyda chlwb Ceidwadwyr Caernarfon yn un o'r aelodau gwreiddiol. Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd cafwyd mwy o glybiau o orllewin y sir yn ymuno nes ym 1950 penderfynwyd newid enw'r Gynghrair i Gynghrair Caernarfon a'r Cylch er mwyn adlewyrchu daearyddiaeth yr aelodau[2].

Daeth tymor cyntaf swyddogol Cynghrair Caernarfon a'r Cylch ym 1950-51 chlwb Cesarea Rovers o ardal Llanberis yn ennill y gynghrair[3].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Caernarfon & District Football League to take a season-long break after AGM". Daily Post. 2014-07-10. Unknown parameter |published= ignored (help)
  2. "Bangor & District League History". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  3. "Caernarfon & District League 1950-51". Welsh Football Data Archive. Unknown parameter |published= ignored (help)