Cynghrair Ynys Môn

Cynghrair bêl-droed ar gyfer Ynys Môn yw Cynghrair Ynys Môn. Am resymau nawdd, fe'i hadnabyddir fel Cynghrair Kon-X Môn ar gyfer tymor 2017-18.

Mae Cynghrair Ynys Môn yn gyfystur â chweched lefel pyramid bêl-droed Cymru ac yn bwydo Cynghrair Gwynedd. Ers i Gynghrair Caernarfon a'r Cylch ddod i ben yn 2014 mae timau o ardal Caernarfon wedi ymaelodi â Chynghrair Môn.

Ffurfiwyd y gynghrair ym 1897-98 gyda saith clwb. Porthaethwy oedd y pencampwyr cyntaf gyda Caergybi Unedig, Swifts Caergybi, Llandegfan, Llangefni ac Amlwch hefyd yn cystadlu ond gyda Beaumaris yn tynnu yn ôl cyn diwedd y tymor[1].

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Anglesey League: 1897-98". Unknown parameter |published= ignored (help)

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.