Cynghrair Merched Cymru

Cynghrair Merched Cymru oedd cynghrair pêl-droed cenedlaethol merched lelfel uchaf Cymru. Sefydlwyd y gynghrair yn 2009 gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, gyda'r gobaith o wella safon pêl-droed merched yng Nghymru. Cynhaliwyd y gêm gyntaf rhwng Tref Aberystwyth a Merched Llanidloes ar 24 Medi 2009, y sgôr oedd 2-0 a roedd 348 o bobl yn y dorf.[1]

Cynghrair Merched Cymru
Gweler hefyd: Cynghrair Cymru

Ym mis Medi 2012 cymerwyd cam fawr ym mhêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Gynghrair yn Uwch Gynghrair Merched Cymru (prif erthygl) yn y Senedd ar ffurf mwy sefydlog.

Ar gyfer tymor 2021-22 cafwyd ail-frandio a strwythuro newydd gan newid enw'r Uwch Gynghrair i Adran Premier Cymru gan hepgor y gair 'merched' er mwyn codi statws a normaleiddio pêld-droed merched.[2] Yn y strwythur newydd ceir Adran Premier fel yr unig adran genedlaethol ac oddi tano Adran North ac Adran South, ceir hefyd wedyn Aran North dan 19 ac Adran South dan 19.[3]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu