Adran Premier

Prif gynghrair pêl-droed Merched Cymru

Adran Premier yw'r gynghrair pêl-droed merched lefel uchaf yng Nghymru a gymerodd le Uwch Gynghrair Merched Cymru yn dilyn adrefnu ar ddechrau tymor 2021/22.[1]

Adran Premier
Gwlad Cymru
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd2009 (2021 ar ei newydd wedd)
Nifer o dimau8
Lefel ar byramid1
Disgyn iAdran y De / Adran y Gogledd
CwpanauCwpan CBD Merched Cymru
Cwpanau cynghrairCwpan Uwch Gynghrair Merched Cymru
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr Merched UEFA
GwefanGwefan swyddogol
6 Medi 2012 - Lansiad Uwch Gynghrair Pêl-droed Merched Cymru yn y Senedd

Fe’i gweinyddir gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru a chafodd ei sefydlu yn 2009, fel Cynghrair Merched Cymru, a hi yw’r gynghrair bêl-droed gyntaf i ferched yng Nghymru. Mae'r enillydd yn gymwys i gael lle yng Nghynghrair y Pencampwyr Merched UEFA.

Cyhoeddwyd newid i enw swyddogol y gynghrair ar gyfer tymor 2021-22 sef, Genero Adran Leagues (gan arddel y gair Cymraeg adran yn y fersiwn Saesneg o'r Gynghrair hefyd). Dyma'r Gynghrair merched gyntaf ym Mhrydain a dim ond y 3ydd yn Ewrop i ollwng y gair 'merched' o deitl y gyngrair er mwyn normaleiddio a rhoi statws i bêl-droed merched.[2] Dywedodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Menywod CBD Cymru, "'da chi ddim yn rhoi'r enw 'dynion' ar y Cymru Premier ... pam sydd angen i roi'r enw 'merched' ynddo fo? Achos,ar ddiwedd y dydd, dim ond pêl-droed yw e"[3]

Mewn blynyddoedd blaenorol anfonwyd enillydd y cwpan cenedlaethol i gystadleuaeth Ewropeaidd.

Fformat y gystadleuaeth golygu

Pencampwyr y gynghrair fydd y clwb sydd â'r nifer uchaf o bwyntiau ar ddiwedd y tymor. Os bydd gan ddau glwb neu fwy yr un nifer o bwyntiau, bydd enillwyr y gynghrair yn cael eu penderfynu yn ôl y gwahaniaeth goliau. Os bydd gan fwy un clwb yr un gwahaniaeth goliau, y clwb sydd wedi sgorio'r nifer uchaf o goliau fydd y pencampwyr.[4] Mae'r gymdeithas hefyd wedi creu strwythur cynghreiriau o dan 19 oherwydd y teimlad bod 'na "ormod o jymp" rhwng y ddau safon yn ôl Lowri Roberts ac eisiau "cadw merched yn y gêm".[5]

Strwythyr newydd o 2021/22 golygu

Gyda'r strwythur newydd a gyflwynwyd yn 2021-22 crewyd 5 Adran sef:[6]

  • Adran Premier - yr hen uwch gynghrair a'r unig adran genedlaethol, i gynnwys 8 tîm gydag 1 yn disgyn i naill ai Adran North neu Adran South gan ddibynnu ar y lleoliad daearyddol
  • Adran North
  • Adran South
  • Adran North Dan 19
  • Adran South Dan 19

Disgyn ac esgyn golygu

Bydd wyth tîm Adran Premie yn chwarae gartref ac oddi cartref. Ar ôl y 14 gêm hyn, mae'r pedwar clwb gorau wedyn yn chwarae yn erbyn ei gilydd a'r un peth i'r pedwar clwb isaf, gartref ac oddi cartref. Bydd pencampwr Premier Adran yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Bydd y tîm sy'n gorffen yn 8fed yn disgyn i Adran De neu Adran Gogledd. Bydd wyth tîm Adran y De ac Adran y Gogledd yn chwarae gartref ac oddi cartref. Bydd enillwyr y Gogledd a'r De yn cystadlu mewn gêm ail gyfle, gyda'r enillydd yn cael ei ddyrchafu i Adran Premier. [7]

Cyflwynwyd y gynghrair dan 19 i bontio'r bwlch rhwng pêl-droed ieuenctid a hŷn gyda dros 20 o dimau newydd sbon ledled Cymru., Gyda chlybiau'n defnyddio eu tîm dan 19 fel offeryn datblygu allweddol ar gyfer chwaraewyr sy'n symud ymlaen i'w tîm hŷn. Bydd enillwyr y Gogledd a’r De yn chwarae yn erbyn ei gilydd i gael eu coroni’n bencampwr cenedlaethol dan 19 oed.

Timau Adran Premier tymor 2021/2022 golygu

Met Caerdydd, Dinas Caerdydd, Dinas Abertawe, Tref Port Talbot, Seintiau Newydd, Pontypridd a Barri Unedig, a Tref Aberystwyth.

Newid a Buddsoddi golygu

Cyhoeddwyd yn 2018 y bydd buddsoddi yn y gêm merched yng Nghymru gan ganolbwyntio ar ardal Casnewydd ac Wrecsam a chynyddu nifer y merched sydd wedi eu cofrestru i chwarae pêl-droed o 6,500 i 20,00 erbyn 2024.[8]

Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru y byddant yn cyflwyno newidiadau i'r strwythur "fydd addas yn "economaidd a daearyddol" ar gyfer datblygiad y gêm yng Nghymru".[9] Esboniodd Lowri Roberts, Pennaeth Pêl-droed Merched CBDC.[10] Gwelwyd y newidiadau hynny ar gyfer tymor 2021-22.[11]

Chwarae yn Ewrop golygu

Bydd UEFA yn rhoi lleoedd Ewropeaidd i glybiau Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a bennir gan safle Cymru yn safleoedd cyfernod gwlad UEFA ("coefficient rankings"). Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei dro yn dyrannu nifer o'r lleoedd Ewropeaidd hyn i swyddi olaf Uwch Gynghrair Merched Cymru. Ar ddiwedd tymor 2018–19, roedd Cymru yn safle 39 yn Ewrop - gan roi ochr sengl iddynt yng Nghynghrair Pencampwyr Merched UEFA.

Yn nhymor 2018–19, enillodd y tîm sydd yn y safle uchaf yng Nghynghrair Merched Premier Cymru gymhwyster i rownd ragbrofol Cynghrair y Pencampwyr.[12]

Hanes golygu

Chwaraewyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 rhwng C.P.D.M. Aberystwyth yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwareuwraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes (Walker bellach), merch Ray Hughes, un o syfaenwyr a rheolwr C.P.D. Merched Tref Aberystwyth.[13]

Yn ei dri thymor cyntaf, rhannwyd y gynghrair yn ddwy Adran gydag enillydd y ddwy adran yn cystadlu mewn gêm rownd derfynol i ennill y bencampwriaeth. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad yn y tymor cyntaf, o dymor 2010-11 ymlaen, cafodd y tîm a osodwyd ddiwethaf ym mhob cynhadledd ei israddio.[14]

Ers 2012–13 mae'r gynghrair yn cael ei chwarae mewn un adran yn unig. Yn 2015-16, cafodd dau dîm eu hisraddio. Yr wyth clwb a ffurfiodd y Gynghrair oedd Tref Aberystwyth, Tref Caernarfon, Merched Llanidloes, Merched Manorbier, Merched Castellnewydd Emlyn, Dinas Abertawe, Athrofa Caerdydd (bellach Met Caerdydd) a Merched Wrecsam.

Yn 2021-22 ailstrwythurwyd ac ailfrandwyd yr Uwch Gynghrair a strwythur pêl-droed merched Cymru unwaith eto. Brandwyd yr Uwch Gynghrair yn Genero Adran Premier (Genero ar ôl y noddwyr). Darlledwyd gêm, Met Caerdydd a Dinas Abertawe yn fyw ar 5 Medi 2021.

Nawdd golygu

Noddwyd y Gynghrair ers 2016 gan gwmni cysylltiadau cyhoeddus Orchard a leolir yng Nghaerdydd.[15] Ar gyfer tymor 2021-22 ac am ddwy flynedd ac yn rhan o'r brandio newydd ar gyfer Adran Leagues (sy'n hepgor y gair 'merched') noddwyd y gynghrair gan gwmni Genero - cwmni trefnu digwyddiadu a hyrwyddo.[16]

Darlledu Gêm Fyw golygu

Ar brynhawn ddydd Sul 27 Medi 2020, darlledwyd y gêm fyw gyntaf erioed o'r Gynghrair gan raglen Sgorio ar S4C.[17] C.P.D. Merched Dinas Abertawe bu'n fuddugol 0-3 dros C.P.D. Merched Dinas Caerdydd yng Nghaerdydd.[18] gyda Chloe Chivers yn 'Seren y Gêm'.[19] Caiff uwchafbwyntiau gemau'r Uwch Gynghrair eu darlledu ar raglen Sgorio ar S4C.[20] Darllediad fyw gyntaf yr Genero Adran Premier ar ei newydd wedd oedd Met.Caerdydd yn erbyn CP.D.M. Dinas Abertawe a ddarlledwyd ar-lein ar Youtube a Facebook Sgorio.[21] Abertawe enillodd 1-2.[22]

Pencampwyr golygu

Yn y tri thymor cyntaf penderfynodd rownd derfynol rhwng enillwyr adran y gogledd a'r de pwy oedd y pencampwr. Noder felly nad oes gemau terfynnol wedi'r tair bencampwriaeth gyntaf gan i strwythur yr Uwch Gynghrair Genedlaethol ddod i fodolaeth.