Cyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin
Roedd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin yn awdurdod lleol yng nghanol Sir Gaerfyrddin, Cymru a grëwyd ym 1894. Cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i'r awdurdod ym mis Rhagfyr 1894.[1]
Cyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin | |
Motto: ONI HEUIR NI FEDIR | |
Daearyddiaeth | |
Cyfesurynnau | 51°51′22″N 4°18′58″W / 51.856°N 4.316°WCyfesurynnau: 51°51′22″N 4°18′58″W / 51.856°N 4.316°W |
Statws | Dosbarth Gwledig |
Pencadlys | 3 Heol Spilman, Caerfyrddin |
Hanes | |
Tarddiad | Deddf Llywydraeth Lleol 1888 |
Crëwyd | 1894 |
Diddymwyd | 1974 |
Ailwampio | Cyngor Dosbarth Caerfyrddin |
Fel awdurdodau lleol tebyg a sefydlwyd ym 1894, roedd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerfyrddin yn gyfrifol am dai, glanweithdra ac iechyd y cyhoedd ac roedd ganddo hefyd rywfaint o reolaeth dros ffyrdd a chyflenwad dŵr.[2]
Roedd yr awdurdod yn cwmpasu plwyfi Abergwili, Cynwyl Elfed, Llanarthey, Llanddarog, Llandyfaelog, Llangain, Llangyndeyrn, Llangynog, Llansteffan, Merthyr, Llannewydd a Llanismel.
Ardal wledig ac amaethyddol ydoedd yn bennaf, er pan sefydlwyd yr Ardal Wledig, yr oedd mwyngloddio glo yn ehangu ym mhlwyfi de-ddwyreiniol Llanarthne a Llangyndeyrn. Tra bod y rhan fwyaf o'r aelodau etholedig yn Annibynnol neu'n anwleidyddol, roedd y plwyfi diwydiannol yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr Llafur ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.
Diddymwyd yr awdurdod yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974, a chymerwyd ei rôl gan Gyngor Dosbarth Caerfyrddin.