Cyngor Gogledd yr Iwerydd
Corff goruchaf y cynghrair milwrol NATO yw Cyngor Gogledd yr Iwerydd a sefydlwyd gan Erthygl 9 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd. Mae Cynrychiolwyr Parhaol yr holl aelod-wladwriaethau yn cwrdd o leiaf unwaith yr wythnos. Hefyd mae gweinidogion tramor, gweinidogion amddiffyn, a phenaethiaid llywodraethol yn cwrdd fel rhan o'r Cyngor. Ysgrifennydd Cyffredinol NATO yw pennaeth y Cyngor.
Enghraifft o'r canlynol | panel |
---|---|
Rhan o | Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd |
Dechrau/Sefydlu | 4 Ebrill 1949 |
Pencadlys | Dinas Brwsel, Palais de Chaillot, Porte-Dauphine |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |