Aelod-wladwriaethau NATO
Cynghrair milwrol sydd yn cynnwys 32 o aelod-wladwriaethau o Ogledd America ac Ewrop yw Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Y ddwy aelod o Ogledd America yw Canada a'r Unol Daleithiau. Mae gan bob un o'r aelodau luoedd milwrol, er nad oes gan Wlad yr Iâ fyddin arferol (ond mae ganddi gwylwyr y glannau milwrol ac uned fechan o filwyr ar gyfer ymgyrchoedd i gadw'r heddwch). Mae gan dri o aelodau NATO arfau niwclear: Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Unol Daleithiau.
Aelodau NATO (mewn glas). | |
Enghraifft o'r canlynol | collective |
---|---|
Math | aelod-wladwriaeth |
Gwefan | https://www.nato.int/cps/en/natohq/nato_countries.htm |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Aelod-wladwriaethau yn ôl dyddiad eu hymaelodaeth
golyguDyddiad | Gwlad | Ehangiad | Nodiadau |
---|---|---|---|
4 Ebrill 1949 | Gwlad Belg | Sefydlwyr | |
Canada | |||
Denmarc | Nid yw aelodaeth Denmarc o NATO yn cynnwys Føroyar na'r Ynys Las, yn wahanol i'w haelodaeth yn yr Undeb Ewropeaidd. | ||
Ffrainc | Gadawodd Ffrainc reolaeth filwrol gyfunol NATO ym 1966 i ddilyn system amddiffyn annibynnol ond dychwelodd at aelodaeth lawn ar 4 Ebrill 2009. | ||
Gwlad yr Iâ | Ymunodd Gwlad yr Iâ, yr unig aelod sydd heb fyddin sefydlog, ar yr amod ni fydd rhaid iddi sefydlu un. Er hyn, roedd yn aelod pwysig oherwydd ei leoliad daearyddol strategol yng Nghefnfor yr Iwerydd. Mae ganddi wylwyr y glannau ac yn ddiweddar llu cadw'r heddwch gwirfoddol, a hyfforddir yn Norwy ar gyfer NATO. | ||
Yr Eidal | |||
Lwcsembwrg | |||
Yr Iseldiroedd | |||
Norwy | |||
Portiwgal | |||
Y Deyrnas Unedig | |||
Unol Daleithiau America | |||
18 Chwefror 1952 | Groeg | Cyntaf | Tynodd Gwlad Groeg ei luoedd yn ôl o strwythur rheolaeth filwrol NATO rhwng 1974 a 1980 o ganlyniad i densiynau rhyngddi a Thwrci yn sgîl goresgyniad Cyprus gan Dwrci ym 1974. |
Twrci | |||
9 Mai 1955 | Yr Almaen | Ail | Ymaelododd fel Gorllewin yr Almaen; adunodd â Saarland ym 1957 a thiriogaethau Berlin a'r cyn-Weriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) ar 3 Hydref 1990. Roedd y DDR yn aelod o Gytundeb Warsaw, 1956-1990. |
30 Mai 1982 | Sbaen | Trydydd | |
12 Mawrth 1999 | Tsiecia | Pedwerydd | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia. |
Hwngari | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991. | ||
Gwlad Pwyl | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991. | ||
29 Mawrth 2004 | Bwlgaria | Pumed | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991. |
Estonia | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd. | ||
Latfia | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd. | ||
Lithwania | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, a rhan o'r Undeb Sofietaidd. | ||
Rwmania | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991. | ||
Slofacia | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1991, fel rhan o Tsiecoslofacia. | ||
Slofenia | Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol) | ||
1 Ebrill 2009 | Albania | Chweched | Aelod Cytundeb Warsaw, 1955-1968. |
Croatia | Cyn-weriniaeth Gweriniaeth Ffederal Sosialaidd Iwgoslafia, 1945-1991 (Amhleidiol) | ||
5 Mehefin 2017 | Montenegro | Seithfed | Cyn-weriniaeth Iwgoslafia |
27 Mawrth 2020 | Gogledd Macedonia | Wythfed | Cyn-weriniaeth Iwgoslafia |
4 Ebrill 2023 | Y Ffindir | Nawfed | |
7 Mawrth 2024 | Sweden | Degfed |