Cyngor Eciwmenaidd yr Eglwys Gatholig Rufeinig a gynhaliwyd rhwng 1414 a 1418 oedd Cyngor Konstanz (Lladin: Concilium Constantiense). Cyfarfu'r cyngor ar gais yr Ymerawdwr Sigismund yn esgobaeth-tywysogaeth Konstanz yn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, sy'n rhan o'r Almaen heddiw.

Cyngor Konstanz
Enghraifft o'r canlynolsynod Edit this on Wikidata
Dechreuwyd5 Tachwedd 1414 Edit this on Wikidata
Daeth i ben22 Ebrill 1418 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganCyngor Vienne Edit this on Wikidata
Olynwyd ganCyngor Fflorens Edit this on Wikidata
LleoliadNeuadd Cyngor Konstanz Edit this on Wikidata
Yn cynnwysConclaf 1417 Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Daeth y cyngor â'r Sgism Orllewinol i ben. Cafodd ymddiswyddiad y Pab Grigor XII a diorseddodd y ddau ymgeisydd arall; etholwyd y Pab Martin V yn eu lle.

Ymhlith ei weithredoedd cyntaf oedd barnu Jan Hus yn euog o heresi ac yna ei ddienyddio (1415).

Gwnaeth ddyfarniadau ar faterion yn ymwneud â sofraniaeth genedlaethol, hawliau paganiaid a rhyfel cyfiawn, mewn ymateb i wrthdaro rhwng Uchel Ddugiaeth Lithwania, Teyrnas Gwlad Pwyl ac Urdd y Marchogion Tiwtonaidd.

Bu'r cyngor hefyd yn trafod materion yn ymwneud â llywodraethu'r Eglwys a goruchafiaeth y Pab.