Y Sgism Orllewinol
Hollt yn yr Eglwys Gatholig yn ystod yr Oesoedd Canol Diweddar oedd y Sgism Orllewinol neu'r Sgism Fawr (1378–1417). Wedi i sawl pab deyrnasu o Avignon yn y cyfnod 1309–77, yr hyn a elwir Pabaeth Avignon, dychwelodd y Babaeth i Rufain dan Grigor XI. Bu farw Grigor yn 1378 ac etholwyd Urbanus VI, ac aeth ati i ymateb i lygredigaeth eglwysig. Ymgynullodd criw o gardinaliaid anfodlon yn Agnani i ethol pab arall, Clement VII, gan sbarduno'r sgism. Bu olyniaeth o wrth-babau yn teyrnasu yn Avignon am ddeugain mlynedd arall. Olynwyd Urbanus VI yn Rhufain gan Boniffas IX (1389– 1404), Innocentius VII (1404–1406), a Grigor XII (1406–1415), a olynwyd Clement VII yn Avignon gan Bened XIII (1394–1417).
Enghraifft o'r canlynol | schism in Christianity |
---|---|
Dechreuwyd | 1378 |
Daeth i ben | 1417 |
Rhagflaenwyd gan | Y Sgism Fawr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Methiant a fu Cyngor Pisa yn 1409 i ddod â diwedd i'r sgism. Yno, etholwyd pab arall, Alecsander V, na chafodd ei gydnabod gan Babaeth Rhufain na chan Babaeth Avignon. Galwyd Cyngor Konstanz yn 1414 i ddatrys yr anghydfod. Penderfynodd y cyngor ddiorseddu'r Pab Grigor XII a'r Gwrth-bab Ioan XXIII ac etholwyd y Pab Martin V i aduno'r Eglwys Gatholig â'i phencadlys yn Rhufain. Daeth y sgism i ben yn 1417.[1]
Gweler hefyd
golygu- Y Sgism Fawr, nue'r Sgism Ddwyreiniol, sef y sgism rhwng yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Tom Streissguth, The Greenhaven Encyclopedia of the Renaissance (Farmington Hills, Michigan: Greenhaven Press, 2008), t.146
Darllen pellach
golygu- Joëlle Rollo-Koster a Thomas M. Izbicki, A Companion to the Great Western Schism (1378–1417) (Leiden: Brill, 2009).