Marchogion Tiwtonaidd

Urdd o farchogion Cristnogol o'r Almaen oedd y Marchogion Tiwtonaidd neu'r Urdd Diwtonaidd. Chwaraeodd ran bwysig yn yr Oesoedd Canol wrth gynorthwyo Cristnogion ar bererindod i'r Tir Sanctaidd ac i wladychu gwledydd dwyrain y Baltig gan yr Almaenwyr.

Marchogion Tiwtonaidd
Enghraifft o'r canlynolurdd filwrol grefyddol, urdd ysbytwyr Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1190 Edit this on Wikidata
LleoliadAcre, Fenis, Malbork Castle, Königsberg, Bad Mergentheim, Fienna Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSchäffer, Livonian Order, knight of the Teutonic Order, Order of Dobrzyń, Livonian Brothers of the Sword, Marianer Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadGrand Master of the Teutonic Knights Edit this on Wikidata
SylfaenyddHeinrich Walpot von Bassenheim Edit this on Wikidata
RhagflaenyddLivonian Brothers of the Sword Edit this on Wikidata
PencadlysFienna Edit this on Wikidata
Enw brodorolDeutscher Orden Edit this on Wikidata
GwladwriaethTaleithiau'r Babaeth, Teyrnas Jeriwsalem, yr Ymerodraeth Lân Rufeinig, State of the Teutonic Order, Duchy of Prussia, Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth Awstria, Teyrnas Bafaria, Teyrnas Württemberg, Grand Duchy of Baden, Archddugiaeth Hessen, Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen, Awstria-Hwngari, Teyrnas yr Eidal, Gweriniaeth Almaeneg-Awstria, Gweriniaeth Gyntaf Awstria, y Fatican, Awstria, yr Almaen Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.deutscher-orden.at/, http://www.deutscher-orden.de/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tiroedd a changhennau'r Marchogion Tiwtonaidd yn y flwyddyn 1300

Darfu i ddioddefiadau'r Cristnogion yn adeg y gwarchae ar Acre (1189–91) gyffroi cydymdeimlad y marsiandwyr yn Bremen a Lübeck, y rhai a wnaethant wasanaeth mor ragorol trwy sefydlu clafdai yn ystod y Drydedd Groesgad. Gyda caniatâd y Pab Clement III a'r Ymerawdwr Harri VI ffurfiodd Ffredrig, Dug Swabia yr urdd, Marchogion Tiwtonaidd y Santes Fair o Gaersalem. Nid oedd caniatâd i neb ymuno â'r urdd ond Almaenwyr o waedoliaeth uchel, gan i'r sefydlwyr gwreiddiol gael eu gwneud yn bendefigion, dybygid, cyn eu derbyn i mewn. Ar y cyntaf roedd yr aelodau oll yn lleygwyr, ond yn raddol gollyngwyd offeiriaid i mewn fel caplaniaid. Gwisg yr urdd oedd mantell wen â chroes ddu arni. Cymerai'r marchogion adduned o dlodi a diweirdeb, ond nid oeddid yn gofalu ond ychydig amdanynt mewn amseroedd diweddar.

Y lle cyntaf yr ymsefydlasant ynddo oedd Acre. Ar gwymp Teyrnas Caersalem, symudodd y prif swyddog i Fenis, ac oddi yno, ym 1309, i Marienburg ar lannau'r Vistula. Ymunodd yr urdd â Brodyr y Cleddyf yn Lifonia yn y flwyddyn 1237. Gyda chaniatâd y pab, cariasant ymlaen ryfel gwaedlyd ar lannau deheuol y Môr Baltig, yn y 13g, er cael y cenhedloedd a drigent yno dderbyn Cristnogaeth. Ymunodd rhyfelwyr o bob parth o Ewrop gyda hwynt yn y ganrif ddilynol, ac yn eu plith Harri IV, brenin Lloegr a thri chant o'i farchogion. Dechreuodd yr urdd adfeilio yn y 15g, a chwympodd mewn rhan oherwydd ymraniadau mewnol, ac mewn rhan o ganlyniad ymosodiadau gan y cenhedloedd cylchynol. Cymerwyd gorllewin Prwsia gan Zygmunt I, brenin Gwlad Pwyl, oddi ar y marchogion, a ffurfiwyd tiriogaethau yr urdd yn nwyrain Prwsia yn dalaith dan Albert o Brandenburg, a'i olynwyr. Yna symudodd y prif swyddog i Mergentheim yn Swabia, yr hwn a gydnabyddid fel tywysog o'r ymerodraeth. Pan wnaed Heddwch Presburg, ym 1805, trosglwyddwyd i ymerawdwr Awstria hawliau a chyllid y prif feistr, ond ym 1809 diddymwyd yr urdd gan Napoleon, ac aeth y tiroedd perthynol iddo yn feddiant i benaduriaid y gwledydd lle y digwyddent fod. Mae'r urdd Diwtonaidd, fodd bynnag, yn bod mewn rhyw ffurf yn Awstria eto, ac ers 1929 urdd gwbl grefyddol ydyw.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.