Y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol

Corff Libiaidd a ffurfiwyd gan wrthryfelwyr sy'n gwrthwynebu llywodraeth Muammar al-Gaddafi yn ystod gwrthryfel 2011 yw'r Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol (Arabeg: المجلس الوطني الانتقالي, al-majlis al-waṭanī al-intiqālī). Datganwyd ei ffurfiant yn ninas Benghazi ar 27 Chwefror 2011 gyda'r amcan o ymddwyn fel "wyneb gwleidyddol y chwyldro", ac ar 5 Mawrth 2011 datganwyd y cyngor ei hun i fod yn "unig gynrychiolydd Libia oll".

Y Cyngor Trawsnewidiol Cenedlaethol
Enghraifft o'r canlynolsefydliad, caretaker government, llywodraeth dros dro Edit this on Wikidata
Daeth i ben8 Awst 2012 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu27 Chwefror 2011 Edit this on Wikidata
Map
RhagflaenyddGeneral People's Congress Edit this on Wikidata
OlynyddGeneral National Congress Edit this on Wikidata
PencadlysTripoli Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.ntclibya.org/, http://www.ntclibya.com Edit this on Wikidata


Eginyn erthygl sydd uchod am Libia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato