Cyngor ar Bopeth
Mae Cyngor ar Bopeth yn rhwydwaith o 316 elusennau annibynnol ledled Y Deyrnas Unedig sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol rhad ac am ddim i helpu pobl sydd a problemau anffafriaeth, bydd-daliadau, dyled, defnyddwyr, gwaith, tai a phroblemau eraill. Dau nod Cyngor ar Bopeth yw "i ddarparu'r cyngor mae pobl ei angen ar gyfer y problemau maent yn eu hwynebu" ac yn ail "i wella polisïau ac egwyddorion sy'n effeithio ar fywydau pobl".
Math o gyfrwng | sefydliad, sefydliad elusennol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1939 |
Gweithwyr | 729, 803, 1,005, 928, 838 |
Ffurf gyfreithiol | sefydliad elusennol |
Pencadlys | Llundain |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | https://www.citizensadvice.org.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn 2013 ymwelodd un rhan o dair o boblogaeth Y Deyrnas Unedig wefan Cyngor ar Bopeth. Mae ymchwil yn dangos bod 40% o boblogaeth Prydain wedi cysylltu â Cyngor ar Bopeth ar ryw adeg yn ystod eu bywydau.
Dathlodd Cyngor ar Bopeth ei ben-blwydd 75ed yn 2014 ac yn 2015 cafodd yr elusen ei enwi yn Elusen y Flwyddyn.
Mae llinell gymorth Cyngor ar Bopeth yng Nghymru yn cynnig cyngor trwy'r Gymraeg a'r Saesneg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.cabgwynedd.org; adalwyd 20 Awst 2016
Dolen allanol
golygu- [1] Gwefan swyddogol