Cyrch ar Wlad Pwyl, 2022
Ar 15 Tachwedd 2022 achoswyd ffrwydrad gan daflegryn a darodd fferm ger pentref Przewodów, Gwlad Pwyl, yn agos i'r ffin ag Wcráin. Bu farw dau weithiwr fferm o ganlyniad i'r ffrwydrad. Digwyddodd yn ystod cyfres newydd o gyrchoedd awyr a orchmynnwyd gan Vladimir Putin, Arlywydd Ffederasiwn Rwsia, yn erbyn safleoedd ar draws Wcráin. Dyma'r achos cyntaf o daflegryn yn disgyn a ffrwydro ar diriogaeth un o aelod-wladwriaethau NATO yn ystod goresgyniad Wcráin gan Rwsia yn 2022.[1]
Ar y cychwyn, ansicr ydoedd tarddiad y taflegryn a achosodd y ffrwydrad. Codwyd ofn y byddai cyrch gan luoedd Rwsia ar un o aelod-wladwriaethau NATO yn tanio rhyfel rhwng y cynghrair milwrol hwnnw a Rwsia, ac ill dau yn meddu ar arfau niwclear.[1] Y diwrnod wedi'r ffrwydrad, daeth i'r amlwg, mae'n debyg, taw taflegryn Wcreinaidd—hen roced S-300 o'r oes Sofietaidd—ydoedd, a lansiwyd gan luoedd amddiffyn awyr er mwyn gwrthsefyll cyrchoedd Rwsia, ac a laniodd dros y ffin yn nhiriogaeth Gwlad Pwyl ar ddamwain.[2][3] Er i Rwsia hefyd feddu ar rocedi S-300, dim ond pellter o ryw 95 milltir y gellir ei saethu, ac felly'n mae'n rhaid i daflegryn o'r fath gael ei lansio o Orllewin Wcráin.[2] Ar 16 Tachwedd, datganodd Andrzej Duda, Arlywydd Gwlad Pwyl, a Jens Stoltenberg, Ysgrifennydd Cyffredinol NATO, nad oedd tystiolaeth i ddangos bod y ffrwydrad o ganlyniad i ymosodiad uniongyrchol ar diriogaeth Gwlad Pwyl. Tybiodd Duda, "yr oedd lluoedd amddiffyn Wcráin yn lansio'u taflegrau i wahanol gyfeiriadau, ac mae'n debygol iawn i un o'r taflegrau hyn, yn anffodus, ddisgyn i diriogaeth Bwylaidd".[4] Ar 17 Tachwedd, datganodd Jakub Kumoch, cynghorydd polis tramor i'r Arlywydd Duda, yr awgrym swyddogol fod y taflegryn wedi camweithio trwy beidio ag hunanddinistro wedi iddo fethu â tharo'i darged, ac yna disgyn i'r ddaear a ffrwydro.[5] Fodd bynnag, gwadodd Volodymyr Zelenskyy, Arlywydd Wcráin, taw lluoedd arfog ei wlad oedd ar fai.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Andrew Desiderio ac Alexander Ward, "Western leaders on high alert after explosion in Poland kills 2", Politico (15 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Tachwedd 2022.
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Joe Barnes, "The hunt for who struck Poland and the clues they left behind", The Daily Telegraph (16 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Tachwedd 2022.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Patrick Jackson ac Oliver Slow, "Ukraine war: Kyiv not to blame for Poland missile - Zelensky", BBC (17 Tachwedd 2022).
- ↑ Vasilisa Stepanenko, "Poland, NATO say missile strike wasn’t a Russian attack", AP News (16 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Tachwedd 2022.
- ↑ (Saesneg) Matthew Day a Nick Squires, "'Ukrainian missile malfunctioned' before killing two in Poland", The Daily Telegraph (17 Tachwedd 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 17 Tachwedd 2022.