Wici'r Holl Ddaear
Cystadleuaeth ffotograffiaeth rhyngwladol a gynhelir gan brosiectau Wicimedia yw Wici Daear (Wiki Loves Earth), ble mae'r cystadluwyr yn uwchlwytho eu lluniau i Gomin Wicimedia. Mae'n rhaid i'r lluniau cael eu cymryd mewn mannau cadwraethol ee Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng Nghymru, Rhywogaethau mewn perygl yn ôl Rhestr Goch yr IUCN, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yng Nghymru, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru, Parciau Cenedlaethol Cymru, neu Safleoedd Treftadaeth y Byd yng Nghymru. Ceir categori cyfan o ffotograffau a dynnwyd yn Ffrainc, er enghraifft. Yn 2021, cystadleuodd Cymru am y tro cyntaf.
Y bwriad yw uwchlwytho cymaint â phosib o luniau naturiol o'r Ddaear, yn daearyddol neu o ran daeareg, mannau dan sy'n cae; eu gwarchod o ran cadwraeth, llefydd dan fygythiad ayb - ar drwydded agored. Drwy uwchlwytho lluniau fel hyn, y gobaith yw y gellir codi proffil breuder y blaned a'r bywyd bregus sydd arni, fel y gellir eu gwarchod yn well. Bydd y ffotograffau hyn yn cael eu defnyddio i ddylunio erthyglau Wicipedia ac eraill, yn Gymraeg a phob un o'r 288 iaith arall.
Sefydlu
golyguSefydlwyd y prosiect hwn yn Ebrill 2012 mewn trafodaethau rhwng Wicimedia Wcrain a Wicimedia Rwsia. Rhwng 15 Ebrill ac 15 Mai 2013 lanlwythwyd 11,736 llun a hynny gan 365 o bobl. Yn 2014 roedd 16 gwlad wedi cystadlu. Hyd yma nid yw Cymru (na gwledydd eraill y DU) wedi cymryd rhan. Gan mai mynyddoedd, afonydd ayb yw prif themau'r lluniau, nid yw Lloegr wedi hyrwyddo'r gystadleuaeth mewn unrhyw fodd.[1]
2021 yng Nghymru
golyguYn 2021 cymerodd Cymru ran yn y gystadleuaeth ar lefel rhyngwladol. https://commons.wikimedia.org/wiki/Commons:Wiki_Loves_Earth_2021_in_Wales Trefnwyd ymgyrch Cymru] gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Wikimedia UK, Wici Môn, Grŵp Defnyddwyr Cymuned Wicimedia Cymru, ac ymhlith y partneriaid roedd: Cyfoeth Naturiol Cymru, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri, a Clwb Mynydda Cymru a Llên Natur.
Enillwyr o Gymru, 2021
golygu2022 yng Nghymru
golygu
Rhai o'r ffotograffau rhyngwladol buddugol
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ commons.wikimedia.org; adalwyd 2017.