Cystennin XI
Cystennin XI Palaiologos neu Palaeologus, Groeg: Κωνσταντίνος ΙΑ' Δραγάσης Παλαιολόγος, Kōnstantinos XI Dragasēs Palaiologos (8 Chwefror 1405 - 29 Mai 1453), oedd ymerawdwr olaf yr Ymerodraeth Fysantaidd.[1]
Cystennin XI | |
---|---|
Ganwyd | 9 Chwefror 1404, 8 Chwefror 1405 Caergystennin |
Bu farw | 29 Mai 1453 Caergystennin |
Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Fysantaidd |
Swydd | Ymerawdwr Bysantaidd, Despot of the Morea |
Tad | Manuel II Palaiologos |
Mam | Helena Dragaš |
Priod | Theodora Tocco, Caterina Gattilusio, Theodora Tocco, Caterina Gattilusio |
Llinach | Palaiologos |
llofnod | |
Ganed ef yng Nghaergystennin, yn wythfed o ddeg plentyn yr ymerawdwr Manuel II Palaiologos a Helena Dragaš. Bu'n llywodraethu Caergystennin o 1437 hyd 1440, pan oedd ei frawd hŷn Ioan VIII Palaiologos yn yr Eidal. Daeth yn despotes Morea (y Peloponnesos) yn hydref 1443, gyda'i brifddinas yn Mistra.
Pan fu farw ei frawd Ioan VIII Palaiologos, bu ymryson am yr orsedd rhwng Cystennin a'i frawd Demetrios Palaiologos. Gogynnwyd i'r Swltan Ottomaniaidd Murad II benderfynu rhyngddynt, a Chystennin a ddewiswyd. Coronwyd ef yn Mistra ar 6 Ionawr, 1449.
Bu farw Murad yn 1451, a than ei fab Mehmed II gwaethygodd y berthynas rhwng yr Ottomaniaid a Chaergystennin. Yn ystod gaeaf 1451-52, adeiladodd Mehmed gaer Rumelihisari, ychydig i'r gogledd o ddinas Caergystennin, i baratoi am warchae. Apeliodd Cystennin am gymorth o'r gorllewin, ond ni chafodd lawer, yn rhannol oherwydd fod ei ddeiliad yn gryf yn erbyn ei ymdrech i uno'r Eglwys Uniongred Ddyreiniol a'r Eglwys Gatholig. Dechreuodd y gwarchae yng ngaeaf 1453. Gwrthododd Cystennin gynnig Mehmed II o roi Mistra iddo i'w rheoli pe bai'n ildio Caergystennin. Ar 29 Mai 1453 llwyddodd y fyddin Ottomaniaidd i gyrraedd i mewn i'r ddinas. Gwelwyd yr ymerawdwr yn taflu ei glogyn porffor ymaith ac yn arwain ei filwyr mewn ymosodiad olaf. Yn ôl rhai fersiynau o'r hanes, ni lwyddwyd i ddarganfod ei gorff wedi'r frwydr.
Ystyrir ef yn sant gan yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, er na wnaed ef yn sant yn swyddogol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ David Nicolle (2005). Constantinople, 1453: The End of Byzantium (yn Saesneg). Praeger. t. 22. ISBN 978-0-275-98856-2.