Peloponnesos
Penrhyn yn ne Gwlad Groeg ac un o Beriffereiau Groeg yw'r Peloponnesos (Groeg: Πελοπόνησος Pelopónnisos). Ffurfia'r rhan o dir mawr Groeg sydd i'r de o Gwlff Corinth, ac fe'i cysyllrir a'r gweddill o dir mawr Groeg gan Isthmws Corinth. Ers adeiladu Camlas Corinth yn 1893, gellir ei ystyried yn dechnegol yn ynys. Nid yw Perifferi Peloponnesos yn cynnwys y cyfan o'r Peloponnesos daearyddol; mae rhan o hwnnw ym mheriffereiau Gorllewin Groeg ac Attica.
Math | gorynys, rhanbarth |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwlad Groeg |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 22,200 km² |
Uwch y môr | 2,407 metr, 994 metr |
Gerllaw | Y Môr Canoldir, Môr Adria, Môr Aegeaidd |
Yn ffinio gyda | Attica Region |
Cyfesurynnau | 37.3497°N 22.3522°E |
Heblaw am y cysylltiad dros y tir, neu yn awr ar draws Camlas Corinth, cysylltir y Peloponnesos a'r gweddill o Wlad Groeg gan bont, Pont Rio-Antirio a orffenwyd yn 2004, ar draws Gwlff Corinth.
Mae gan y Peloponnesos arwynebedd o 21,549 km² (8,320 milltir sgwar). Ardal fynyddig ydyw; y copa uchaf yw Mynydd Taygetus. Mae pedwar penrhyn, Messenia, Penrhyn Mani, Penrhyn Malea (neu Epidaurus Limera), ac Argolis.
Prif ddinasoedd y Peloponnesos, gydag ystadegau poblogaeth 2001, yw:
- Patras (169,242)
- Kalamata (54,065)
- Corinth (30,434)
- Tripoli (28,976)
- Argos (25,068)
- Pyrgos (24,765)
- Aigion (21,966)
- Sparta (16,473)
- Nafplio (13,124)
Ceir nifer o safleoedd archaeolegol pwysig iawn yn y Peloponnesos hefyd, yn eu plith Epidaurus, Mycenae, Olympia a Tiryns, yn ogystal â hen ddinasoedd Corinth a Sparta.