Cysylltiadau rhyngwladol Ewrop

Mae gan y mwyafrif o wledydd Ewrop sofraniaeth o ran eu polisi tramor, ond mae 27 aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd (UE) hefyd yn rhannu rhywfaint o bolisi tramor cyffredin, yn enwedig ym materion masnach ac ynni.

Yn hanesyddol, chwaraeodd Ewrop rhan fawr yn hanes cysylltiadau rhyngwladol ac yn natblygiad y system ryngwladol. Adeiladodd gwledydd Ewropeaidd ymerodraethau yn ystod oes imperialaeth, a gafodd eu diddymu yn ystod yr 20g. Bellach mae'r UE yn uno 27 o wladwriaethau'r cyfandir mewn sefydliad uwchgenedlaethol a rhynglywodraethol, sydd yn cysylltu polisïau tramor llywodraethau Ewrop tuag at ei gilydd ac tuag at wledydd eraill o gwmpas y byd. Ystyrir rhai gwledydd, megis Ffrainc, y Deyrnas Unedig, a'r Almaen, yn bwerau mawrion neu'n bwerau canolig ar y lwyfan ryngwladol, ac yn ôl rhai gall yr UE ennill statws uwchbwer yn ystod y ganrif nesaf. Mae nifer o wledydd Ewrop hefyd yn aelodau'r cynghrair milwrol NATO.

Gweler hefyd golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gysylltiadau rhyngwladol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.