Cytosol
Rhan hylifol y gell fiolegol a chynhwysyn mwyafrifol yr hylif mewngellog yw cytosol. Rhennir yn adrannau gan gellbilennau. Er enghraifft, mae'r matrics mitocondriaidd yn gwahanu adrannau'r mitocondrion. Mewn celloedd ewcaryotig, lleolir y cytosol tu mewn i'r gellbilen ac yn rhan o'r cytoplasm ac ar wahân i'r cnewyllyn.