Cnewyllyn (neu'r niwclews) yw'r canolfan rheoli mewn cell, sydd yn rheoli gweithgareddau'r gell. Ceir cnewyllyn mewn celloedd ewcaryot, ond nid mewn celloedd procaryot megis bacteria. Nid oes cnewyllyn mewn celloedd coch y gwaed, i wneud mwy o le i haemoglobin. Mae hyd cnewyllyn rhwng 11 a 22 micrometr fel arfer.

Cnewyllyn cell
Enghraifft o'r canlynolcydran cellog Edit this on Wikidata
Mathintracellular membrane-bounded organelle Edit this on Wikidata
Rhan ocell ewcaryotig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Deiagram o gnewyllyn cell ewcaryot ddynol

Swyddogaeth y cnewyllyn

golygu

Mae rhan fwyaf o enynnau'r cell yn cael eu storio yn y cnewyllyn, ar y cromosomau, molecylau DNA mawr. Yn ogystal, ceir proteinau yn y cnewyllyn sy'n rheoli mynegiant genynnau, ac yn trawsgrifio gwybodaeth gennynol i mRNA i gael ei gludo i'r sytoplasm. Trwy'r broses hon, mae'r cnewyllyn yn rheoli'r adweithiau cemegol sy'n digwydd yn y sytoplasm. Yn ogystal, mae'r cnewyllyn yn hollbwysig i'r broses o gellraniad.

Hanes darganfyddiad

golygu

Robert Brown, botanegydd o'r Alban, oedd y gyntaf i wneud arsylliadau meicrosgop o sylwedd o'r cnewyllyn.

  Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.