Organeb gyda chelloedd cymhleth yw ewcaryot. Mae gan gelloedd ewcaryotau gnewyllyn sy'n cynnwys y cromosomau. Mae'r celloedd yn rhannu drwy feiosis neu fitosis.

Mae'r ewcaryotau'n ffurfio un o'r tri pharth o organebau byw; y bacteria a'r archaea yw'r lleill. Rhennir yr ewcaryotau yn bedair teyrnas yn draddodiadol: anifeiliaid, planhigion, ffyngau a phrotistiaid. Holltir y protistiaid yn sawl grŵp gwahanol gan lawer o dacsonomegwyr modern.

Y gell ewcaryotig golygu

Rhannau celloedd ewcaryotig:

 
Cell anifail: 1) Cnewyllan 2) Cnewyllyn 3) Ribosom 4) Fesigl 5) Reticwlwm endoplasmig garw 6) Organigyn Golgi 7) Cytosgerbwd/Sytosgerbwd 8) Reticwlwm endoplasmig llyfn 9) Mitocondria 10) Gwagolyn 11) Cytoplasm/Sytoplasm 12) Lysosom 13) Centriol
 
Cell planhigyn: a. Plasmodesmata b. Cellbilen c. Cellfur 1. Cloroplast d. Pilen thylacoid e. Gronyn starts 2. Gwagolyn f. Gwagolyn g. Tonoplast h. Mitocondria i. Perocsisom j. Cytoplasm k. Fesiglau pilennog bach l. Reticwlwm endoplasmig garw 3. Cnewyllyn m. Mandwll cnewyllol n. Amlen gnewyllol o. Cnewyllan p. Ribosomau q. Reticwlwm endoplasmig llyfn r. Fesiglau Golgi s. Organigyn Golgi t. Cytosgerbyd ffilamentog
  Eginyn erthygl sydd uchod am fioleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.