Cytref De-ddwyrain Dorset

ardal drefol yn Dorset

Cytref ar arfordir sir seremonïol Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Cytref De-ddwyrain Dorset. Mae'r ardal hefyd yn cael ei chyfuniad ag ardal de-orllewin Hampshire ar gyrion parc cenedlaethol y Fforest Newydd.

Cytref De-ddwyrain Dorset
Mathardal drefol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDorset
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.7208°N 1.8703°W Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr ardal arwynebedd o 308 km², gyda 549,748 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1]

Y gytref yw'r ardal drefol fwyaf ym Mhrydain heb unrhyw ran â statws dinas. Y prif ganolfannau poblogaeth yw Bournemouth, Christchurch a Poole, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio awdurdod unedol Bournemouth, Christchurch a Poole; fodd bynnag, mae'r ardal drefol yn ymledu mor bell i'r dwyrain â Barton on Sea yn Hampshire. Mae nifer o drefi dibynnol yn ymylol i'r prif ganolfannau trefol hyn. Mewn cylchdro clocwedd mae'r rhain yn cynnwys: Wareham, Upton, Wimborne Minster, Ferndown, Verwood a Ringwood.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 26 Ebrill 2020